Ein pumed blwyddyn
Ynghyd â’n partneriaid, cefnogwyr a chynhalwyr digwyddiadau rhyfeddol, rydym, bellach, wedi cynnal Wythnos Cymru ar gyfer pum mlynedd yn olynol – bob blwyddyn, hi yw’r rhaglen sengl, fwyaf o ddigwyddiadau yn hyrwyddo Cymru, yn Llundain a ledled y byd fel ei gilydd.
Am y bythefnos o gylch Dydd Gŵyl Dewi yn 2021, cynhaliodd Wythnos Cymru Llundain oddeutu 70 o weithgareddau a digwyddiadau gwahanol yn cwmpasu bwyd a diod Cymreig, chwaraeon, arddangosfeydd celf, cyngherddau a pherfformiadau cerddorol, trafodaeth wleidyddol ac economaidd, comedi, dylunio, cwisiau, arddangosfeydd coginio a phaentio, hyrwyddiadau busnes a chyngor proffesiynol, sinema, ffilm, y cyfryngau, fintech, seiber a mwy – unwaith eto bu’n rhaglen amrywiol, gyforiog, fendigedig.
Cafodd ein rhaglen yn 2021 ei chyflenwi’n gyfan ar-lein wrth gwrs, oherwydd y pandemig Covid19 – tystiolaeth rhyfeddol o egni, dychymyg ac ymroddiad y bobl a sefydliadau niferus a chyflenwodd pob gweithgaredd ac a chyfranodd i wireddu Wythnos Cymru ar gyfer pum mlynedd yn olynnol.