Mae nifer o sefydliadau rhagorol yn helpu hwyluso ymgysylltiad â’n cyd-Gymry sydd yn byw tramor – y Cymry ar wasgar.
Daw Wythnos Cymru Llundain â’r sefydliadau hyn ynghyd i drafod arwyddocâd ymgysylltu â’r Cymry ar wasgar a beth mae hyn yn ei olygu i Gymru.
Bydd y drafodaeth yn ystyried sut mae’r sefydliadau hyn, yn unigol ac ar y cyd, yn gwneud eu rhan i helpu cefnogi, meithrin, datblygu a dylanwadu ar rwydweithiau’n Cymry ar wasgar o gwmpas y byd.
Bydd aelodau’r panel yn cynnwys cynrychiolwyr o GlobalWelsh, St David's World, Cymru a'r Byd / Wales International, Fly2Wales a’r Welsh North American Association – hwylusir y drafodaeth gan Dan Langford o Wythnos Cymru Llundain – a chaiff cwestiynau eu gwahodd gan y gynulleidfa o flaen llaw i’r dyddiad.
Manylion pellach a dolen ar gyfer neilltuo’ch lle.