• Dyddiad
    24th Chwefror 2021 at 10:30yb
  • Man cyfarfod
    Ar-lein
  • Gwesteiwr
    APPG Wales in the World
  • Categori
    Bwyd A Chrefftau

Dyma’r tro cyntaf i’r ‘Grŵp Seneddol Trawsbleidiol i Gymru yn y Byd‘ gynnal digwyddiad / cyflwyniad yn agored i’r cyhoedd - mae wedi dewis gwneud hynny yn arbennig i Wythnos Cymru - ac mewn partneriaeth gyda Hybu Cig Cymru.

Trafodaeth banel fydd y digwyddiad, yn cynnwys cynrychiolwyr o arweinwyr ffermio a’r diwydiant bwyd yng Nghymru, gan fwrw golwg at sut all dau o allforion mwyaf eiconig Cymru - cig oen Cymru a chig eidion Cymru - ffynnu yn y cyfnod ôl Brexit.

Yn ddiweddar, mae Hybu Cig Cymru – Meat Promotion Wales (HCC) wedi cyhoeddi ymchwil newydd cyffrous sydd yn dangos bod Cymru’n cynhyrchu cig coch mewn ffordd fwy cynaliadwy na llawer o lefydd eraill ledled y byd.

Mae ffermio Cymru yn anelu at fod yn arweinydd byd-eang ym maes cynaladwyedd, a bydd hyn yn allweddol i sut gaiff y brand ei hybu.

Mae cyfleoedd enfawr ar gyfer brandiau cig oen a chig eidion premiwm, a all dystio manylion amgylcheddol uchel yn ogystal ag olrhain ac ansawdd rhagorol.

Cydnabyddir Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eisoes mewn llawer o wledydd. Mae masnach mewn cig oen i’r Dwyrain Canol er enghraifft wedi cynyddu’n sylweddol yn y ddwy flynedd ddiwethaf, ac mae’r potensial ar gyfer marchnadoedd eraill i agor.

Bydd y digwyddiad yn canolbwyntio ar strategaethau i ddatblygu’r cynhyrchion eiconig hyn i adeiladu brand byd-eang Cymru fel cartref y cynnyrch o’r ansawdd uchaf, wedi’i amaethu yn y ffordd fwyaf cynaliadwy.