Hybu dathliad byd-eang o Gymru

Wrth i Wythnos Cymru Llundain barhau i gasglu momentwm cynyddol, felly hefyd y gwna ar draws y byd.

Gan adeiladu ar y rhaglen digwyddiadau a gynhaliwyd yn Llundain, yn y blynyddoedd diweddar cafodd Wythnosau Cymru eu cynllunio a digwydd mewn llawer o leoliadau eraill o amgylch y byd, megis ym Mharis, Melbourne, Efrog Newydd, Essex, Ohio, Newcastle, yr Almaen, New England, Beijing, Dulyn, Berkshire, Gogledd Orllewin Lloegr, Hwngari, Tokyo, Birmingham, Glasgow, Hong Kong, Bangkok, Dubai, British Columbia, Osaka, Kansas, Pittsburgh, Toronto, Iran . . . ac rydym hefyd wedi gweld diddordeb bendigedig gan nifer o leoliadau ychwanegol ers hynny, gan gynnwys Geneva, De Affrica, Malta, Doha, yr Eidal, ymysg eraill - felly, dylech wylio’r gofod hwn!

Nid yw Wythnosau Cymru bob amser yn digwydd yn yr un lleoliadau bob blwyddyn – cânt eu datblygu a’u rhedeg ar y cyd â llawer o wirfoddolwyr rhyfeddol ledled y byd; ac felly mae natur eu ‘gwirfoddoli’, yn golygu na fyddan nhw bob amser ar gael o un flwyddyn i’r llall – ond mae hynny’n iawn, rydym ni’n syml wrth ein bodd y bo nhw’n gallu ymuno â ni a chymryd rhan pan maen nhw’n gallu.

Eleni rydym yn rhagweld amserlen digwyddiadau byd-eang, a fydd am y tro cyntaf yn dod â’r gweithgareddau a restrir ymhob un lleoliad i wefan newydd; rhaglen epig ar-lein sengl - a mwy a mwy o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal ar-lein, bydd hyn yn denu cynulleidfaoedd o gwmpas y byd, waeth o le, efallai, y cynhelir digwyddiad.

Ymunwch â ni ble bynnag y bo’ch

Rydym yn gweithio gyda sefydliadau gwasgariad cenedlaethol; os ydych yn cynrychioli cymuned, grŵp neu gymdeithas Cymry ar Wasgar ac mae gennych ddiddordeb i gydredeg eich dathliadau Dydd Gŵyl Dewi â’r mudiad Wythnos Cymru Byd-eang, yna cysylltwch â ni – nid oes unrhyw ffioedd / costau , i’r gwrthwyneb, ceisiwn eich cefnogi gymaint â phosib, a gall Wythnos Cymru yn eich ardal hyrwyddo ymgysylltu â’ch cymdeithas ac i gynyddu’ch aelodau, yn ogystal â rhannu Cymru gyda’r trigolion lleol!

Canfod ymhle arall mae Wythnos Cymru’n digwydd

Ymweld â’r wefan