

Y weledigaeth dros Wythnos Cymru
Mae’n ddigon syml – rydym am wneud sŵn, cymaint o sŵn Cymreig â phosib.
Arddangosfa flynyddol yw Wythnos Cymru Llundain o weithgareddau a digwyddiadau sydd yn dathlu ac yn hybu popeth sydd yn wych am Gymru.
Dyma’r cyfle i sefydliadau Cymreig hybu eu cynnyrch a’u gwasanaethau, a datblygu cynulleidfaoedd, partneriaethau a chysylltiadau â’u canolfannau yn Llundain.

Y daith cyn belled
Digwyddodd yr Wythnos Cymru Llundain gyntaf yn 2017, lle bu 56 o wahanol weithgareddau a digwyddiadau. Yn 2018 bu 81 ohonyn nhw, yn 2019 bu mwy na 100 ac yn 2020 helpodd mwy na 130 o weithgareddau a digwyddiadau arddangos Cymru ar hyd a lled Llundain. Hyd yn oed yn ystod cyfnod clo’r pandemig yn 2021, digwyddod, o hyd, 70 o ddigwyddiadau ar-lein; a phan ailddechreuodd pethau eto yn 2022, cynhaliodd Wythnos Cymru Llundain i fyny hyd at 90 o weithgareddau a digwyddiadau gwahanol. Ceir manylion am y blynyddoedd blaenorol fan’ma.


Enwau enwog, brandiau gwych, mannau cyfarfod bendigedig
Mae Wythnos Cymru wedi mwynhau cyfraniad nifer o Gymry enwog, rydym wedi gweithio gyda llawer o frandiau blaenllaw ac wedi cynnal digwyddiadau mewn rhai lleoliadau ffantastig ledled Llundain - Ryan Giggs, Sam Warburton, y Prif Weinidog, Rhod Gilbert, BBC Cymru, Tai’r Senedd, Opera Cenedlaethol Cymru, Jamie Roberts, Llysgenadaethau Americanaidd, Ffrenig a Swisaidd, Shane Williams, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Barbican, Eglwys Gadeiriol San Steffan, Undeb Rygbi Cymru, Y Shard, yr Old Bailey, CBI, Guildhall, Ian Rush, IoD, Alex Jones, Y Swyddfa Dramor, Cymdeithas Pêl Droed Cymru, James Dean Bradfield, Prif Weinidog Cymru, PwC, RADA, Jonathan Davies, 10 Downing Street, yr Urdd, Carol Vorderman, Whisgi Cymreig Penderyn, Cyfnewidfa Stoc Llundain, . . .


Yn parhau i adeiladu momentwm
Wrth i Wythnos Cymru Llundain barhau i greu diddordeb cynyddol, gwna hynny hefyd ledled y byd.
Yn 2020 cynhaliwyd Wythnosau Cymru hefyd ym Mharis, Melbourne, Efrog Newydd, Essex, Ohio, Newcastle, Pittsburg, Berkshire, Dulyn, British Columbia, yr Almaen, Kansas, New England, yn ogystal â llefydd eraill megis Dubai, Beijing, Tokyo a Hong Kong a gafwyd eu cynllunio ond a bu rhaid eu canslo oherwydd y pandemig C19. Yn 2021 cafwyd yr holl Wythnosau Cymru ar-lein wrth gwrs, ac roeddem yn ôl gyda digwyddiadau wyneb i wyneb yn 2022. Dros yr ychydig flynyddoedd nesaf gallwn gael llawer mwy o Wythnosau Cymru’n digwydd ar yr un pryd ledled y byd!