• Dyddiad
    25th Chwefror 2021
  • Man cyfarfod
    Ar-lein
  • Gwesteiwr
    wales.com / Welsh Government
  • Categori
    Busnes, diwydiant a thechnoleg

Ein gŵyl ddigidol – yn dathlu 72 awr o Ddydd Gŵyl Dewi.

Yng Nghymru, rydym wedi wynebu llawer o heriau’n ddiweddar sydd wedi’n hatgoffa o’r pethau sydd yn annwyl i ni — ein gilydd, ein bro a’n byd . Wrth i ni wynebu’r dyfodol gyda phenderfyniad o’r newydd i wneud daioni, mae Dydd Gŵyl Dewi ar 1 Mawrth yn gyfle i arddangos Cymru ar ei gorau i’r byd a gwahoddwn ni chi i ymuno â ni.

Byddwn yn rhedeg gŵyl ddigidol 72-awr o ddydd Gwener 26 Chwefror i ddydd Llun 1 Mawrth ar y cyfryngau cymdeithasol, o Gymru allan i’r byd.

Mae ein rhaglen ddigwyddiadau digidol yn cynnwys cerddoriaeth, celf, yoga, coginio ar y cyd, wybrennau tywyll a mwy - yn ogystal ag enwogion trwy gydol y penwythnos!

Mae mwy o wybodaeth am y digwyddiadau a sut i ymuno drwy’r ddolen wefan a ddarparwyd.

Beth am gymryd rhan – ac anogwch eich teulu a ffrindiau (ble bynnag y bo nhw yn y byd) i gyfranogi hefyd – drwy’n dilyn ni ar Twitter, Facebook ac Instagram, lle byddwn yn cyhoeddi’r rhaglen ac yn rhannu’r holl ddigwyddiadau.

Yn ei bregeth olaf dywedodd Dewi 'Gwnewch y pethau bychain – sydd bellach yn alwad genedlaethol i uno. Yn 2021, rydym am gymryd ei uchelgais hanesyddol ond perthnasol a’i rannu â’r byd. Bydd Dydd Gŵyl Dewi yn ganolbwynt ar gyfer gwneud daioni, mawr neu fychan.

Dyma Gymru. Gwnawn ddaioni – i’n gilydd, i’n gwlad, i’r byd, Beth am ymuno â ni.