• Dyddiad
    24th Chwefror 2021 at 12:30yp
  • Man cyfarfod
    Ar-lein
  • Gwesteiwr
    GlobalWelsh & Cardiff Capital Region
  • Categori
    Busnes, diwydiant a thechnoleg

GlobalWelsh & Phrifddinas Ranbarth Caerdydd

Cyflwyna GlobalWelsh a Phrifddinas Ranbarth Caerdydd:

Rhwydweithio Craff: Sut all adeiladu’ch rhwydwaith ddiogelu’ch dyfodol

"It's not what you know, it's not who you know - it's who knows you!" - Kingsley Aikins CBE, CEO Networking Institute

Os rhoddodd y pandemig unrhyw beth i ni, rhoddodd i ni’r cyfle i gofio’r hyn sydd yn bwysig, ac yn bennaf y bobl a’r perthnasau sydd gennym yn ein bywydau yw. Gwnaeth bod gartref ein gorfodi i ddod o hyd i ffyrdd eraill o ymgysylltu â ffrindiau, teulu, cydweithwyr a chwsmeriaid a ffyrdd newydd o wneud busnes.

Aethom i mewn i 2021 gyda mwy o werth wedi’i osod ar bobl - y rheiny rydym yn eu hadnabod yn bersonol ac yn broffesiynol. Profwyd, er bod wyneb-i-wyneb yn well gennym yn bennaf, mewn cyfnod pan na allwn wneud hynny, mae gennym yr arfau ar flaenau’n bysedd i o hyd adeiladu a chynnal cysylltiadau cryf.

Nid yw daearyddiaeth na thechnoleg bellach yn rhwystrau rhag adeiladu rhwydwaith gref, yn lleol ac yn fyd-eang, sydd â’r grym i drawsnewid eich gyrfa a busnes, ar hyn o bryd ac yn y dyfodol fel ei gilydd ac mae rhwydweithio yn sgil allweddol y mae rhaid i ni gyd ei meistroli.

Felly waeth beth yw eich sefyllfa ar hyn o bryd, pa gam bynnag rydych arno yn eich gyrfa, neu daith busnes, ymunwch â ni am awr o fewnwelediad, awgrymiadau a chwalu mythau, gyda Kingsley Aikins, un o arbenigwyr blaenllaw’r byd ar rwydweithio ac ymgysylltu â phobl ar wasgar, a chanfod sut y gallwch gael y blaen drwy adeiladu’ch rhwydwaith yn agos a phell.

Digwyddiad rhad ac am ddim yw hwn.

Agenda:

  • Croeso
  • Gwerth rhwydweithio a’r awgrymiadau gorau - Kingsley Aikins OBE
  • Trafodaeth panel - Mythau rhwydweithio wedi’u chwalu
  • C&A cynulleidfa
  • Cau

Mae’r digwyddiad hwn mewn partneriaeth â Chynllun Graddedigion Prifddinas Ranbarth Caerdydd.

Am Kingsley Aikins CBE

Mae Kingsley Aikins yn arbenigwr cydnabyddedig ar rwydweithio ac mae wedi ysgrifennu a siarad yn helaeth ar y pwnc. Mae wedi rhedeg gweithdai a chyflwyniadau ar gyfer rhai o gwmnïau blaenllaw'r byd megis Google, Linkedin, Accenture, Deloitte, Intel, KPMG, PwC, a nifer o gwmnïau cyfraith blaenllaw yn Iwerddon a mannau eraill. Mae wedi gweithio gyda llywodraethau ac asiantaethau rhyngwladol megis Adran Gwladwriaeth yr UD, y CU, UE a Banc y Byd.

Graddiodd Kingsley mewn economeg yng Ngholeg y Drindod Dulyn ac mae wedi byw a gweithio mewn chwe gwlad, y canfu rhwydweithio ac adeiladu rhwydweithiau yn hanfodol ym mhob un ohonynt i wneud cynnydd.

Gweithiodd am ddeng mlynedd i Fwrdd Masnach Iwerddon ac IDA Ireland ac roedd ei ganolfan yn Sydney. Gwnaeth wedyn arwain yr Ireland Funds am 17 o flynyddoedd a’i ganolfan yn bennaf yn Boston. Yn ei gyfnod gyda’r cyllidau codwyd dros chwarter biliwn o ddoleri i brosiectau yn Iwerddon.

Cafodd CBE am ei waith ar faterion Prydeinig-Gwyddelig. Yn gyn chwaraewr rygbi i Leinster, mae bellach wedi ymgartrefu yn Nylun gyda’i wraig a’u tri phlentyn.