Your web browser is out of date. Update your browser for more security, speed and the best experience on this site.
  • Hafan
  • Beth sydd ymlaen
  • Amdanom ni
  • Newyddion
  • Digwyddiadau Blaenorol
  • Ledled Y Byd
  • English
  • Cymryd Rhan

Ein Partneriaid a’n Noddwyr

Mae Acorn sydd wedi ennill amlwobr yn un o gwmnïau recriwtio blaenllaw’r DU. Byddwn yn datblygu gyrfaoedd, yn cynyddu busnesau, yn cyflawni uchelgeisiau ac yn newid bywydau. Drwy ein rhwydwaith o fwy na 40 o ganghennau ledled y DU, yn Awstralia a’n hadrannau arbenigedd, byddwn yn gweithio gyda channoedd o fusnesau yn y DU ac yn rhyngwladol i sicrhau y gallwn gynnig y cyfleoedd swydd gorau posib.

www.acornpeople.com

Cwmni yswiriant a’i ganolfan yn y DU yw Admiral, a sefydlwyd ym 1993 i arbenigo ym maes yswiriant ceir. Rydym wedi datblygu’n fawr ers hynny ac rydym bellach yn cynnig llawer mwy nag yswiriant ceir. Beth am ddarganfod mwy amdanom a’n cynhyrchion, gan gynnwys yr hyn a sefwn drosto fel brand, sut brofiad yw gweithio inni a sut rydym wedi gwella profiadau cwsmeriaid a’r gymuned.

www.admiral.com

Cwmni yw Ajuda Learning & Training Services sydd wedi ennill sawl gwobr. Caerdydd, de Cymru yw ei ganolfan. Byddwn yn cyflenwi cymwysterau a chyrsiau galwedigaethol, achrededig, llawn i gwmnïau ar hyd a lled y Deyrnas Unedig, gan gynnwys: Hyfforddiant Cymorth Cyntaf a Iechyd Meddwl, Codi a Chario, Iechyd a Diogelwch, Hylendid Bwyd, Diogelwch Tân a llawer mwy. Gellir darparu pob un o’n cyrsiau ar-lein, mewn adeilad o’ch dewis, neu yn ein hacademi hyfforddi yn Ajuda yn Caerdydd.

www.ajuda.org.uk

Moethusrwydd hyfryd a meistrolaeth brydeinig - cyfuniad o berfformiad a dyluniad, mae ein ceir yn ddarlun o harddwch a chrefft moethusrwydd Prydeinig. Mae’u sbortsceir yn rhan o ddiwylliant, yn cael eu gyrru gan sêr roc, sêr rap ac aelodau teuluoedd brenhinol. Yn hardd, yn brin ac yn hudol, maen nhw’n feistrolaeth o ddyluniad a pheirianneg.

www.astonmartin.com/en-gb

O fewn naw blwyddyn yn unig, fe ddaethom yn rym pwysig yn y diwydiant: 10 o gynyrchiadau ar raddfa fawr yn gyfochrog - 17 o dymorau o ddramau - 212 o enwebiadau ar gyfer eu gwobrwyo - 54 o wobrau wedi’u hennill – sefydlu Screen Alliance Wales – a chreu Wolf Studios Wales.

bad-wolf.com

Cwrw gwych – wedi’i fragu yng Nghymru! Cafodd cwrw Brains ei fragu yng nghanol Caerdydd er 1882. Wrth fragu, byddwn yn defnyddio’r cynhwysion lleol, gorau. Mae ein cynyrch yn cynnwys cwrw clasurol megis y Rev James, Dark ac SA ynghyd â brandiau mwy modern megis Bayside Lager a Barry Island IPA. Gwyliwch fan’ma am ein cynhyrchion newydd a ddaw maes o law!

www.sabrain.com

Banc datblygu busnes yn berchen i’r Llywodraeth ydym ni, a’n diben i’w gwneud marchnadoedd cyllid i weithio’n well ar gyfer busnesau llai. Boed a ydych yn chwilio am gyllid i ddechrau busnes, ei gynyddu i’r lefel nesaf, neu’i gadw ar blaen y gystadleuaeth, byddwn yn cyflenwi mwy o fasnach a dewis cyllid.

www.british-business-bank.co.uk

Ers 2011, buom yn creu a ffrydio cynnwys ar gyfer cleientiaid ar draws y Deyrnas Unedig (DU). Gan weithio o’n canolfannau yn Port Talbot a Llundain (a chriw yng Nghaerdydd, Sir Fôn, Manceinion a Birmingham), tîm o greuwyr ac arbenigwyr cynhyrchu profiadol ydym sydd yn angerddol am yr hyn a wnawn. Buom yn gweithio gyda rhai o enwau mwyaf y DU, enwau fel Unilever, Tata Steel, Nectar Card, Llywodraeth y DU a’r GIG. Yn gwmni cynhyrchu fideos yn ymfalchïo yn ei waith, a’i ganolfan yng Nghymru, mae llawer o brofiad gennym o gynhyrchu cynnwys Cymraeg i’r sector cyhoeddus a’r sector preifat, ac mae staff dwyieithog gennym a all eich arwain drwy’r holl broses yn yr iaith sydd yn well gennych.

www.buffoonmedia.co.uk

Wrth greu Business News Wales, ein nod yw darparu llais i bob busnes Cymreig. Heb yr un safbwynt gwleidyddol neu agenda golygyddol, ein cyrchnod yw creu’r ffynhonnell orau o newyddion busnes yng Nghymru; gan greu maes gwastad i bob busnes waeth ei faint.

businessnewswales.com

Byddwn yn dylunio parciau ynni adnewyddadwy yng Nghymru, ar gyfer Cymru. Yr argyfwng hinsawdd yw pryder mwyaf dybryd ein hoes ar hyn o bryd. Byddwn yn gyrru’r symud i system ynni datgarboneiddo ledled Cymru drwy greu teulu o barciau ynni sydd yn generadu pŵer gwyrdd, glân ar y tir, a dod â thwf economaidd, allweddol i’n cymunedau. Fe’m perchnogir yn breifat, ar gyfer lles y cyhoedd.

bute.energy

Yn creu timau uchel eu perfformiad drwy hyfforddiant rheolaeth arweinyddion ac adeiladu tîm. Mae Call of the Wild yn cyflenwi rhaglenni datblygu rheolwyr, timau ac unigolion arobryn yn seiliedig ar ymchwil i ystod o gwmnïau’r sector cyhoeddus a phreifat ledled y DU. Daw ein harbenigedd o greu lle a man, ble gall unigolion brofi dysg fanwl sy’n parhau ac y gellir ei drosglwyddo i’r gweithle.

www.callofthewild.co.uk

Rhaglen yw Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a gytunwyd arni yn 2016 rhwng Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a’r deg awdurdod lleol yn Ne Ddwyrain Cymru i ddod â thwf economaidd sylweddol yn y rhanbarth drwy fuddsoddi, gwella sgiliau, a gwella cysylltiad corfforol a digidol. Gyda buddsoddiad o £1.2 biliwn, nod y rhaglen yw cyflawni i fyny at 25,000 o swyddi newydd a dylanwadu i gael £4 biliwn yn ychwanegol o fuddsoddiad sector preifat.

www.cardiffcapitalregion.wales

Wedi deillio o’r CCR City Deal, cwmni datblygu preifat yw CCR Energy sydd ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar arferiad ac adfywiad Gorsaf Bŵer hanesyddol Aberthaw. Wrth ymrwymo i helpu gwneud ein hardal yn llwyddiannus, byddwn yn cynnig llwyfan datblygu newydd, sydd yn gallu darparu ynni gwyrdd. Bydd hefyd yn ysbrydoli arloesedd ac yn cefnogi creu cyfleoedd cyflogi i’r genhedlaeth nesaf.

ccrenergy.com

Gan chwyddo potensial dynol – darparwn ddatrysiadau i unrhyw her ar sail pobl. Gan gyfuno niwrowyddoniaeth, seicoleg a dysg peiriant, byddwn yn cyflenwi mewnweliadau a yrrir gan ddata, i wireddu’r gorau glân o’ch pobl.

cognisess.com

Gwasanaeth ymgynghoriaeth gyfathrebu llawn ydym, gyda mwy na 25 o flynyddoedd o brofiad wrth gyflenwi prosiectau is-adeiledd cymhleth. Mae ein profiad yn genedlaethol, ein gwybodaeth yn lleol; gyda 115 o staff yn rhychwantu’r holl genhedloedd ynghyd a rhanbarthau’r Deyrnas Unedig, gyda swyddfeydd yng Nghaerdydd, Llundain, Bryste, Birmingham, Glasgow a Manceinion. Rydym yn arwain y Deyrnas Unedig o ran cyfathrebu strategol, ymgynghori â’r cyhoedd ac ymgysylltu â nhw ar gyfer prosiectau is-adeiledd ac ynni. Byddwn yn helpu sut y caiff prosiectau eu deall, gan leihau’r risg o ran rhaglenni. Rydym wedi helpu llywio’r ffordd ar gyfer rai o’r prosiectau mwyaf uchelgeisiol a all newid cymdeithas. Rydym, hefyd, wedi cyflenwi strategaethau cyfathrebu llawn effaith sydd yn sbarduno eiriolaeth a sicrhau caniatâd.

copperconsultancy.com

Gwneud gwirio hunaniaeth yn syml. Waeth pa farchnad neu sector, gall Credas symleiddio’ch proses cynefino, gan ddefnyddio technoleg marchnad sydd ar flaen y gad i chwyldroi’r modd ‘rydych yn rheoli cydymffurfedd a sylw dyledus.

credas.com

Ymgrymuso gwerth busnes drwy ragoriaeth cadwyn ddarparu, trefn llywodraethu effeithiol ac arbenigedd o ran technoleg.

www.ethoschain.co.uk

Gwlad o bobl a llefydd eiconig yw Cymru. Ein hanes ninnau yw stori o fod yn gyntaf a champweithiau peirianneg ddygn - rheilffordd ar gopa’r mynydd, llwybr arfordir troellog, llinell zip tra uchel, trampolîn tan-ddaear rhyfeddol, ddychrynllyd. Bob amser yn synnu ac yn beiddio i fod yn wahanol. Rydym yn llawn antur. Rydym yn epig. Dyma Gymru.

tradeandinvest.wales

Marchnad ar-lein yw First of March a’i diben yw arddangos crefftwaith moethus o safon byd o Gymru. Mae pob darn ar y safle wedi’i ddylunio a’i saernïo gan grefftwyr annibynnol a’u canolfannau yng Nghymru, ac mae’n ddathliad o ansawdd, deunydd a chrefftwaith bythol.

firstofmarch.com

Cydnabyddwn fod y broses drosglwyddo i EV yn gallu bod yn anodd i rai pobl, felly, gwnaethom greu FleetEV. Byddwn yn darparu ystod anferth o geir a faniau trydan ynghyd â’r holl gyngor ac amrywiaeth cysylltiedig nad, efallai, y ceir gan ddelwriaeth. Byddwn, hefyd, yn gweithio gyda’n partneriaid i roi opsiynau busnes, sydd yn arwain diwydiant, ynghyd â gwasanaethau ategol at ei gilydd i hwyluso’r newid. O ddewis eich EVau trwy ein cynnyrch, sydd yn aberthu cyflog, hyd at osod yr is-adeiledd gwefrio cysylltiedig – gallwn eich helpu!

fleetev.com

Corff llywodraethol pêl droed yng Nghymru yw Cymdeithas Pêl Droed Cymru, a hi yw’r gymdeithas pêl droed y drydydd hynaf yng Nghymru.

www.faw.cymru/cy

Bydd Get Jerky yn creu byrbrydau cig arobryn – wedi’u marinadu yn ein rysetiau’n hunain am hyd at 48 o oriau, yng nghanolbarth Cymru. Caiff Cig Eidon GI Cymru ei fagu ar ffermydd Cymru sydd â safonau lles anifeiliaid uchel a thras a ellir ei olrhain yn llawn – parhawn i ddefnyddio Cig Eidon GI i ddiogelu’r cynnyrch bendigedig hwn sydd â chyswllt uniongyrchol â’r tirwedd naturiol, dilychwin sydd gan Gymru i’w gynnig!

www.getjerky.wales

Fel un o gwmnïau trên mwyaf Prydain, mae mwy na 100 miliwn o gwsmeriaid yn ymuno â ni yn flynyddol. Pan adeiladwyd y Great Western Railway, daeth â masnach a thwristiaeth i’r Gorllewin a Chymru. A bellach, ynghyd â’n partneriaid yn Network Rail, yn ogystal â thrydaneiddio’n prif lwybrau, a gwella gorsafoedd allweddol, rydym yn cynnal y gwaith gwella trenau mwyaf yn y wlad.

www.gwr.com

Cyllid busnes a ddyluniwyd i chi. O’n cartref yng Nghymru, byddwn yn darparu ystod o gynhyrchion cyllid, masnachol a gwasanaethau ymgynghori a fydd yn helpu busnesau i gyflawni’u nodau. Ein nod ni? I ddefnyddio’n harbenigedd a’n hangerdd i helpu busnesau oresgyn heriau, llwyddo, a thyfu.

www.hexafinance.co.uk

Cwmni cyfraith sydd yn un o’r cant gorau yn y DU gyda swyddfeydd yng Nghaerdydd a Llundain. Gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cyfreithiol i unigolion preifat, banciau, cwmniau, sefydliadau’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector.

www.hughjames.com

Gall ddechrau neu leoli busnes yng Nghaerdydd roi manteision costau clir gyda chostau gweithredu isel o’i gymharu â phrif ddinasoedd eraill yn y DU. Gall ein tîm buddsoddi mewnol profiadol eich cynorthwyo gyda’ch cynlluniau i wneud busnes yng Nghaerdydd drwy ddarparu pwynt unigol o gyswllt ar gyfer eich holl ymholiadau am ein dinas. Gwnawn sicrhau y cewch gynnig y gorau sydd gan yr ardal i’w chynnig.

www.investincardiff.com

Rydym yn un o asiantaethau digidol uchel ei barch y Deyrnas Unedig gyda mwy na 40 o staff a dwsinau o gleientau uchelgeisiol. Ond yr un yw ein cenhadaeth – safwn yn erbyn y rheiny sydd yn cam-werthu, cam-arwain a rhoi enw drwg i farchnata digidol.

www.libertymarketing.co.uk

Canolfan diwylliannol a chymunedol yw Canolfan Cymry Llundain ac mae wedi’i leoli yng nghanol Llundain. Ein cenhadaeth yw hyrwyddo diwylliant Cymreig a’n hiaith hardd. Byddwn yn cynnal gweithgareddau a digwyddiadau cymunedol sydd yn hyrwyddo doniau Cymreig. Mae’n gofodau mawr ar gael ar gyfer eu llogi’n breifat. Bydd ein bar eiconig ar agor o ddydd Mawrth tan ddydd Iau o 18:00 ymlaen. Edrychwn ymlaen at eich croesawu’n fuan.

londonwelsh.org

Eich pobl fyd-eang. Ein harbenigwyr byd-eang. Rydym yn fwy na phlatfform yn unig. Am fwy na 27 o flynyddoedd, buom yn datblygu ystod o wasanaethau, sydd eu gwirioneddol angen ar fusnesau sydd yn fyd-eang eu natur – ac fe’i cefnogir gan arbenigwyr go iawn. Pu’n a ydych am gyflogi neu dalu gweithwyr mewn lleoliad newydd, cael peth cyngor cydymffurfio, neu ddarganfod sut i sefydlu’ch endid eich hun, mae gan Mauve Group wasanaeth ar eich cyfer. A dyna pham y cawn ein hystyried yn arweinwyr o ran ehangu.

mauvegroup.com

Mae Mentera yn gwmni annibynnol, nid er elw, sy’n cefnogi unigolion, busnesau a sefydliadau yng Nghymru i ddechrau a datblygu eu busnesau. Rydym ni hefyd yn darparu gwasanaethau ymgynghorol yn ymwneud â materion datblygu economaidd yng Nghymru a thu hwnt.

menterabusnes.cymru/home

Ymgynghoriaeth eiddo yw Newmark, gyda naw swyddfa ledled y DU gan gynnwys yng Nghaerdydd a Llundain. Gweithia partneriaid cleient profiadol a thimau ymroddgar yn llyfn ar draws spectrwm llawn gwasanaethau eiddo tirol, gan gynghori rhestr cleient ddylanwadol o fuddsoddwyr, deiliaid a datblygwyr. Fel partneriaeth annibynnol gwirioneddol, gwerthfawrogwn berthnasau cleient hir-dymor ar draul elw byr-dymor. Rydym yn denu a chadw’r gorau glas o weithwyr proffesiynol, gan adlewyrchu diwylliant sydd yn golegaidd, cyfeillgar a llawn egni, syniadau ac arloesedd.

www.geraldeve.com

Yn Penderyn byddwn yn cynhyrchu ein diodydd haidd a brag, sydd ar ôl iddo aeddfedi, yn cael ei gydnabod yn fyd-eang fel un o’r chwisgi brag sengl ceinaf. Mae’r rhan fwyaf o’n diodydd yn cael ei roi mewn casgiau ar gyfer heneiddio yn ein seleri; defnyddir y gweddill i greu cynhyrchion eraill sydd yn ennill gwobrau. Gyda buddsoddiad, ysbrydoliaeth, sylw manwl, yr haidd gorau, distyllwyr arbenigol a’r casgiau bwrbon derw gorau o America, mae Penderyn Whisky wedi ennill enw da byd-eang yn gyflym gan ennill nifer o wobrau ar y daith.

penderyn.wales

Drwy arddel ethos dyluniad cain byddwn yn cyflenwi pensaerniaeth gyda’i nod o swyno a chynhyrfu’r synhwyrau. Credwn ein bod ni oll yn haeddu llefydd a ddaw yn ymgorfforiad ohonom dros amser, adeiladau y mae gan eu harddull gystal hirhoedledd â’r adnoddau lled anhreuliadwy yr adeiladwyd nhw mor grefftus ohono. Drwy gofleidio harddwch crefft, cofleidiwn y ffactor dynol yn ein hymagwedd at ddylunio. Yr un fath a theimlad a golwg gwrthrych a grefftwyd â dwylo, byddwn yn sicrhau bod pob prosiect yn unigol ac yn llawn cymeriad. Drwy ddod â’r elfennau hyn ynghyd creuwn adeiladau sydd, yn syml, yn denu llawenydd.

www.pensaer.london

Mae Phillips Wellbeing yn gweithio gyda sefydliadau preifat a chyhoeddus, yn cynnig gwasanaeth cwnsela i gyflogeion a staff, sydd yn dioddef problemau sydd yn ymwneud â straen o fewn y gweithle.

phillipswellbeing.com

Ymgynghoriaeth diogelwch seiber arobryn yw PureCyber, a’i gyrchnod yw gwneud diogelwch seiber yn hygyrch, yn ddealladwy a fforddiadwy i unrhyw sefydliad. Cafodd ei enwi’n ddiweddar ‘Y Cwmni Diogelwch Seiber Mwyaf Arloesol yn y DU’, ‘Y Cwmni Ymgynghori Rhyngwladol Gorau yn y DU ar Seiber’ yn ogystal â’r sefydliad diogelwch seiber uchaf ei le o fewn gwobrau WalesTech50. Mae’r tîm yn Wolfberry yn arbenigwyr yn y maes ac mae ganddynt wybodaeth eang o’r tueddiadau, technolegau a’r fectors ymosod diweddaraf.

purecyber.com

Mae gennym hanes hir o wasanaethu cleientiaid yma yng Nghymru, gydag oddeutu 300 o bobl gymwysedig yn ein swyddfa yng Nghaerdydd. Rydym yn falch o weithio gydag ystod o sefydliadau sector cyhoeddus a phreifat sydd yn ffurfio #GreatWales #CymruWych

www.pwc.co.uk/wales

Byddwn yn helpu pobl ledled y DU ac Iwerddon gynllunio a ffurfio’u dyfodol ariannol drwy ddiogelu, tyfu a rheoli’u harian. Boed a oes gennych faterion ariannol cymhleth sydd angen rheoli cyfoeth pwrpasol, neu hanghenion llai cymhleth lle byddai’n llwyfan hunan-fuddsoddi yn fwy buddiol, gallwn gynnig gwasanaeth sydd yn addas i chi.

www.brewin.co.uk

Ymgynghoriaeth marchnata yng Nghaerdydd, yn gwasanaethu cleientiaid byd-eang. Byddwn yn adeiladu a chyflenwi strategaethau sydd yn datgloi cyfleoedd ac yn gwireddu’ch dyheadau busnes. Fel ymgynghoriaeth a yrrir gan ganlyniadau byddwn wrth ein bodd yn helpu ein partneriaid i gyflawni twf cynaliadwy. Ond nid yw byth yn ddull un maint yn ffitio popeth. Byddwn yn blendio mewnwelediadau, strategaethau a dychymyg diwydiant blaengar ar gyfer gweithgareddau marchnata sydd yn gwireddu llwyddiant hir-dymor.

reimaginecontentmarketing.com

Byddaf yn gweithio gydag ystod eang o gleientiaid masnachol – busnesau sydd am ddangos cymeriad a phersonoliaeth. Bydd, bydd lluniau ymarferol ac angenrheidiol, ond waeth ag yw’n ddesg gyfrifiadur, derbynfa neu’n gwpwrdd storio, edrychaf am onglau, siapau a chysgodion a fydd yn bywiogi pob un llun ac yn addas i’ch brand.

www.sophiebaxterphotography.com

Mae Gemau Cymanwlad Cymru yn gyfrifol am ddewis, paratoi ac arwain Tîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad a Gemau Ieuenctid y Gymanwlad. Ar gyfer pob digwyddiad y Gemau, ein nod yw cyflenwi’r tîm gorau posib, creu amgylchedd calonogol a darparu arweiniad cryf. Rydym hefyd yn anelu at godi ymwybyddiaeth o’r holl Gymanwlad drwy weithio’n agos gyda phob unigolyn, a chymunedau yng Nghymru.

teamwales.cymru

Asiantaeth brandio digidol yw Toward, sydd yn creu gwaith mentrus, amlwg ac ystyrlon i gleientiaid sydd am darfu. Buom yn falch i gefnogi Wythnos Cymru Llundain ers ei dechrau ac edrychwn ymlaen at weld y fenter fendigedig hon yn cynyddu!

toward.studio

Darparwr hyfforddiant ac asesiad cenedlaethol yw’r Skills Centre, gan arbenigo mewn atebion sgiliau adeiladu gyda chyfleusterau hyfforddi ledled y DU. Ei brif nod yw cynyddu cyflogaeth a chyfleoedd hyfforddi i bobl leol drwy ddefnyddio canolfannau hyfforddi fel gwasanaeth cyfan ar gyfer hyfforddi ar ac oddi ar safle sydd yn gwarantu profiad dysgwr o ansawdd uchel. Mae’r Skills Centre yma i arwain a chefnogi cyflogwyr lleol, grwpiau cymunedol, partneriaid diwydiant, sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach a rhanddeiliaid lleol ymhob sector adeiladu i wthio gwelliant diwydiannol.

theskillscentre.co.uk

Mae Swyddfa’r Ysgrifennydd Gwladol yn cefnogi Ysgrifennydd Gwladol Cymru wrth hyrwyddo buddiannau gorau Cymru o fewn y Deyrnas Unedig gryfach. Mae’n sicrhau y caiff buddiannau Cymru eu cynrychioli’n greiddiol yn Llywodraeth y DU a chaiff cyfrifoldebau Llywodraeth y DU eu cynrychioli yng Nghymru.

www.gov.uk/government/organisations/office-of-the-secretary-of-state-for-wales

Rydym yn gweithio i helpu gwella bywydau pobl yng Nghymru a gwneud ein gwlad yn lle gwell i fyw a gweithio ynddi, ac i hybu Cymru fel lleoliad ar gyfer busnes a buddsoddi.

gov.wales

Y corff masnachu hamddena gweithredol a chwaraeon Cymru; gan rymuso ei aelodau i fod yn gryfach ac yn fwy llwyddiannus, ar gyfer cymdeithas sydd yn weddus i’r dyfodol. Yn ogystal â darparu eiriolaeth a gwasanaethau cymorth busnes, byddwn yn gweithio gyda’n haelodau i nodi arbenigedd sgil ar gyfer eu rolau bwrdd NED, ac yn darparu datblygiad ar gyfer gweithwyr proffesiynol corfforaethol a chyfleoedd CSR i gwmnïau drwy ein Banc gwybodaeth.

wsa.wales

Gwesty Partner dynodedig Wythnos Cymru Llundain – wedi’i leoli’n gampus yng nghanol un o gymdogaethau mwyaf dymunol Llundain, Belgravia, dim ond taith gerdded 2 funud o Orsaf Victoria – yn cynnig cyfradd Wythnos Cymru Llundain arbennig yn ystod pythefnos y gweithgareddau. Gwesty cain o arddull clasurol yng nghanol Llundain!

www.tophamshotel.net
www.zipworld.co.uk/locations/london

Byddwch y cyntaf i glywed am ddigwyddiadau newydd!

Dolenni defnyddiol

  • Cymryd Rhan
  • Dewch yn Bartner
  • Sefydliadau Cymreig eraill yn Llundain
  • Trefnu Digwyddiad
  • Cysylltwch â ni
  • Ledled Y Byd

Partneriaid elusen Noson Gala

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Ewch i'r Wefan Toward
  • Gwybodaeth Cyfreithiol
  • Wythnos Cymru Llundain © Hawlfraint 2025
Bydd y wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau ar ein wefan.
Edrychwch ar ein polisi preifatrwydd
Derbyn cwcis Gwrthod cwcis

Cael diweddariadau e-bost

To keep updated about events on the Wales Week London - Welsh calendar, please sign up below.