• Dyddiad
    20th Chwefror 2021
  • Gwesteiwr
    The Goodwash Company
  • Categori
    Bwyd A Chrefftau

Blwch Rhodd – cynnig arbennig Wythnos Cymru Llundain!

Cynnig dim ond ar gael o 20 Chwefror i 7 Mawrth.

Yn arferol yn £35.00, bellach dim ond £25.00 ar gyfer Wythnos Cymru Llundain – defnyddiwch y cod 'WWL25'

Ein Blychau Rhodd Moethus gyda phapur lapio â llofnod GW yw’r anrheg Gymreig gorau.

Dewiswch unrhyw ddau o’n cynhyrchion figan naturiol 250ml, sydd wedi ennill gwobrau, i’ch blwch rhodd.

Papur lapio llofnod a thag anhreg â chroeso, ac mae neges bersonol o’ch dewis ar gael.

The Goodwash Company / Cwmni Molchi Da

Brand molchi a ffordd o fyw moethus Cymreig yw cwmni Goodwash sydd ar genhadaeth i newid y byd #onewashatatime

Y cynhwysion naturiol gorau yng Nghymru yw deunydd crai ei holl gynnyrch; mae’n gynnyrch figan achrededig ac fe’i seilir ar feddyginiaethau iachusol ar gyfer y croen, gwallt, corff a blew.

Cafodd y fenter gymdeithasol nad yw ar gyfer gwneud elw ac sydd wedi ennill gwobrau ei sefydlu yn y Barri, De Cymru yn 2019.

Cafodd ei sefydlu ar y syniad y gallwch wneud daioni yn y byd heb orfod cyfaddawdu ar ansawdd.

"Roeddem am greu brand molchi Cymreig moethus â chydwybod gymdeithasol wylaidd . . .

"Brand a fyddai’n edrych yn dda yn yr ystafelloedd molchi coethaf o Bort Talbot i Efrog Newydd; yn teimlo’n dda ar y croen a’r blew mwyaf sensitif, wrth wneud daioni drwy fynd i’r afael â rhywfaint o’r materion cymdeithasol o fewn cymunedau lleol."

Maen nhw’n defnyddio’u model busnes a’u henillion i wella bywydau yng Nghymru. Yn 2019 fe roddon fwy na £10k i brosiectau cynaliadwy lleol yng Nghymru, gan gynnwys gostwng gwastraff, effaith ynysu cymdeithasol, cymorth dementia ac ymwybyddiaeth iechyd meddwl.

Yn ystod 2020 rhoddon nhw fwy na £20k o gynhyrchion molchi i holl ymddiriedolaethau GIG yn cefnogi staff a chleifion yn ystod COVID.

Ar gyfer effaith gymdeithasol lawn a mwy o wybodaeth, gweler tudalen ‘Daioni’ ar y wefan www.goodwash.co.uk.