
Ein seithfed blwyddyn!
Wel, dyna bythefnos rhyfeddol! Roedd y bwrlwm a gynhyrchwyd gan bopeth Cymreig yn arbennig –casgliad mor ffantastig o weithgareddau a digwyddiadau. Mae momentwm Wythnos Cymru yn wirioneddol wedi’i wreiddio bellach, ac edrychwn ymlaen yn fawr iawn at wanwyn 2024.
Diolch enfawr unwaith eto i bob un o’n partneriaid a noddwyr rhyfeddol, ac i ymroddiad anghredadwy pawb a oedd yn cynnal digwyddiad, ac i bawb a oedd yn bresennol!