Mae prifddinas y DU, ac un o ranbarthau economaidd mwyaf llwyddiannus y wlad / byd, o fewn cyrraedd busnesau Cymreig. Mae gan Lundain Fwyaf gyfanswm GDP sydd saith gwaith un Cymru a phoblogaeth sydd yn deirgwaith yn fwy.
Mae’n gyfle marchnata enfawr yn ogystal â ffynhonell gyfoethog o fuddsoddiad, gwybodaeth a chefnogaeth bosib, drwy ein Cymry ar wasgar sy’n byw yn Llundain. Amcangyfrifir bod mwy na 400,000 o’n Cymry ar wasgar yn byw yn Llundain a de ddwyrain Lloegr.
I gefnogi busnesau Cymreig uchelgeisiol mae GlobalWelsh London yn cynllunio digwyddiad ‘Cysylltu â Llundain’ bob tri mis lle down â gweithwyr Cymreig proffesiynol, arweinyddion busnes, buddsoddwyr ac entrepreneuriaid at ei gilydd, pobl sydd yn dymuno adeiladu’u rhwydwaith Llundain ar draws ystod eang o ddiwydiannau a galwedigaethau.
Bydd y cyntaf ohonyn nhw’n digwydd gyda’r hwyr 23 Chwefror 2023 fel rhan o amserlen Wythnos Cymru Llundain.
Bydd buddsoddwyr yn mynychu’r digwyddiad hefyd felly rydym yn gwahodd entrepreneuriaid sydd a’u canolfannau yng Nghymru ac sydd yn dymuno cysylltu â rhwydwaith buddsoddwyr a’u canolfannau yn Llundain i gysylltu â ni i drafod bod yn rhan o’r digwyddiadau hyn. Cofrestrwch eich diddordeb drwy anfon e-bost i london@globalwelsh.com.