• Dyddiad
    21st Chwefror 2023 at 04:00yp
  • Man cyfarfod
    Portcullis House, Westminster
  • Gwesteiwr
    All Party Parliamentary Group for Wales in the World
  • Categori
    Busnes, diwydiant a thechnoleg

Caiff y Grŵp Hollbleidiol Seneddol dros Gymru yn y Byd (APPG) ei aelodaeth o wleidyddwyr ac arglwyddi Cymreig o bob plaid yn y Tŷ Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi fel ei gilydd.

Cadeirydd yr APPG yw Chirstina Rees AS, a sefydlwyd y grŵp i gynyddu ymwybyddiaeth o ac ystyried proffil Cymru ar y llwyfan rhyngwladol – ac wrth wneud hynny, ystyried themau a syniadau i gefnogi datblygiad a phroffil Cymru.

Yn ei gyfarfodydd, caiff Aelodau glywed gan westeion gwadd o’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol, pobl sydd yn ymwneud yn weithredol ag hyrwyddo a datblygu proffil Cymru ar y llwyfan rhyngwladol, a gyda nhw, byddan nhw’n trafod y cyfleoedd a’r heriau a wynebir.

Mae Cadeirydd yr APPG yn falch i gynnal y cyfarfod nesaf hwn fel rhan o Wythnos Cymru Llundain ac Wythnos Cymru Fyd-eang, y mae’r APPG yn eu cefnogi’n glos iawn.

Daw’r siaradwr gwadd o fenter pencampwyr Allforio Cymreig DiT, a hefyd ceir cyflwyniadau / trafodaeth gan dri o bencampwyr allforio Cymreig eu hunain, yn siarad am eu busnesau.