Datgelir enw a manylion yr unigolyn Cymreig nodedig hwn ganol dydd ddydd Mercher 22 Chwefror 2023 – beth am gipio nôl yma a / neu gadwch olwg ar ein cyfryngau cymdeithasol i ganfod mwy!
Bu cynllun placiau glas Llundain-eang yn bodoli ers 150 o flynyddoedd. Cafodd y syniad o osod ‘llechi coffa’ ei gynnig yn gyntaf gan William Ewart AS yn Nhŷ’r Cyffredin ym 1863. Cafodd effaith ar unwaith ar ddychymyg y cyhoedd, ac ym 1866 sefydlodd y Gymdeithas Gelf (Frenhinol) gynllun placiau swyddogol. Gosododd y Gymdeithas ei blac cyntaf – i’r bardd, yr Arglwydd Byron – ym 1867.
Cafodd y cynllun placiau glas ar ôl hynny eu gweinyddu gan Gyngor Sirol Llundain (1901-65) a gan Gyngor Llundain Fwyaf (1965-86), cyn i English Heritage gymryd y cyfrifoldeb ym 1986.