Sioe yn agor 10 Chwefror ac yn rhedeg tan 25 Mawrth 2023
- Gyda’r hwyr ddydd Llun – Sadwrn: 7.30pm
- Dydd-berfformiadau ddydd Iau & Sadwrn: 2.30pm
"First thing I'm a need you to do is keep my secret. Can’t let nobody know I’m here and I mean nobody"
Tiger Bay yw lleoliad y ddrama hon sydd yn dathlu ysbryd cymunedol y dref porthladd gydag actorion Cymreig gwych megis Ifan Huw Dafydd, Gareth Kennerley a Bethan Mary-James.
Yn ei llety anghyfreithlon yn Butetown, Caerdydd, mae Gwyneth Mbanefo (Sarah Parish, Bancroft) yn llafurio’n ddiflino i gadw ar yr wyneb.
Tref borthladd yn ystod y rhyfel yw; hafan i eneidiau o bob cwr y byd. Pan lwydda Nate (enillydd BIFA Samuel Adewunmi), GI Affricanaidd o America, i ddianc o’i farics a darganfod y byd newydd hwn sydd heb arwahaniadau, a all ddod o hyd i fangre diogel yn Tiger Bay? A chyda pherygl ymhob cornel, pwy all ymddiried ynddi/o?
Dyma’r tro cyntaf i TROUBLE IN BUTETOWN gan y dramodydd arobryn Diana Nneka Atuona (Liberian Girl), ac wedi’i gyfarwyddo gan Tinuke Craig (Jitney, Old Vic) gael ei pherfformio’n gyhoeddus.
Derbyniodd Trouble in Butetown y Theatre Royal Haymarket Writers Award a’r George Devine Award.
Cefnogir y cynhyrchiad hwn yn hael gan Charles Holloway, Season Supporter.