• Dyddiad
    2nd Mawrth 2022 at 01:00yp
  • Man cyfarfod
    On-line
  • Categori
    Celfyddydau A Diwylliant

Cyn Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, mae First of March yn rhyddhau darn recordio unigryw gyda Bethan Gray a First of March Makers – menywod neilltuol yn gweithio ym myd dylunio a chelfwaith moethus.

Rydym yn archwilio sut mae benyweiddiwch yn effeithio a dylanwadu ar eu gwaith – y storïau maen nhw’n dewis eu hadrodd yn eu dyluniadau a chrefftwaith, yn ogystal â’r berthynas maen nhw’n ei meithrin gyda chwsmeriaid, cleientiaid a phartneriaid wrth weithio ar y cyd fyd-eang.

Pob un a’i safbwyntiau ac arddull ei hunain, gofynnwn a all neu a ddylai gosodiadau cymdeithasol, diwylliannol ac efallai gwleidyddol gael eu dylunio, ac rydym yn darganfod y cyfleoedd a’r heriau y mae byd busnes sydd yn esblygu yn ei gynnig i wneuthurwyr a dylunwyr sydd yn fenywod.

Yn wreithiol o Gaerdydd, mae Bethan Gray a’i chanolfan yn Llundain yn un o ddylunwyr dodrefn a nwyddau i’r cartref mwyaf clodwiw y Deyrnas Unedig, ac mae wedi ennill pedair gwobr yn yr Elle Decoration British Design Awards. Mae ganddi gymrodoriaeth anrhydeddus ym Mhrifysgol Metropolitaidd Caerdydd lle sefydlodd Gwobr Menywod ym Myd Crefftwaith.

Mae hi yng nghwmni First of March Makers – Cerflunydd Angela Farquharson, Pensaer gwydr Catrin Jones, myfyrwraig RCA ac ysgolhaig QEST Suzanna James o Suzanna James Knitwear a Georgina Lester o Charles a Patricia Lester, arbenigwyr ym maes celf gwehyddu – y ceir hwy oll yn firstofmarch.com