• Dyddiad
    11th Mawrth 2026 at 7:00yp
  • Man cyfarfod
    The London Welsh Centre, 157–163 Gray’s Inn Road, London WC1X 8UE
  • Categori
    Celfyddydau A Diwylliant

Ar ôl y galw mawr, mae ein nosweithiau meic agored NÔL!

Y dych chi’n chwilio am le i deimlo’n gartrefol yn y Ddinas Fawr?Ydych chi’n Gymro/Cymraes eisiau cwrdd ag eraill?Neu’n greadigol yn chwilio am fan diogel i roi cynnig ar farddoniaeth, canu neu gomedi?

Os felly, Cartref yn y Ddinas yw’r lle i chi!Croeso i unrhyw un sydd â chysylltiad â Chymru – boed chi wedi byw yma ers blynyddoedd neu jest wedi clywed am Gavin a Stacey!Hyd yn oed os wnaethoch chi ddod ar wyliau unwaith, neu fentro rhoi cynnig ar ynganu:llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch.

Beth sy’n digwydd?

  • Bydd y cyflwynydd yn agor pob act
  • 10–15 munud i bob perfformiwr (trefn yn cael ei chyhoeddi ar y noson)
  • Croeso i bawb: barddoniaeth, llais llafar, canu, dawnsio, improv, comedi, jyglo – beth bynnag!
  • System sain sylfaenol + meic a piano digidol, os angen
  • Goleuo pinc/coch (dim tywyllwch llwyr)

Tocynnau £5 – yn cynnwys tocyn raffl!Prynwch ar-lein neu wrth y drws. Perfformwyr yn mynd i mewn am ddim (ond gallan nhw brynu tocyn raffl am £3).Cofrestru drwy: admin@purplestringproductions.comDM @purplestringproductions ar Instagram, neu ar y noson ei hun!Bydd egwyl 20 munud hanner ffordd i gael diod, sgwrs neu brynu tocyn raffl os nad oes gennych un eisoes.

Mae’r arian yn mynd yn syth i’r wobr raffl ac i helpu gyda chostau Purple String Productions – cwmni dan arweiniad pobl o’r dosbarth gweithiol a phobl anabl/neuroamrywiol, yn creu pont rhwng Cymru a Llundain. Mae’r gwariant bar yn mynd i Ganolfan Cymry Llundain.

Dewch draw am noson gynnes, gyfeillgar a chyffrous – bydd croeso mawr i chi!