A ydych erioed wedi tybio pam na ellir canfod eich hynafiaid yng Nghofrestrau’r Llan?
Dichon eu bod yn anghydffurfwyr a oedd yn addoli yn y capel ac nid yn eglwys y llan.
Er bod anghydffurfwyr hefyd yn bod mewn mannau eraill o Brydain, mae’r profiad yn wahanol yng Nghymru, yn rhannol oherwydd efallai mai Cymraeg oedd yr iaith addoli mewn rhai capeli, yn ogystal ag am nad oedd y capel yn unig yn fodd mynegi crefydd ond ei fod hefyd yn greiddiol i fywyd cymdeithasol a diwylliannol y gymuned.
Ymunwch â Gill Thomas ar gyfer archwilio hanesion ac adnoddau anghydffurfiaeth yng Nghymru.
Efallai y gallan nhw’ch helpu i chwalu’r rhwystrau rhag canfod cyfenwau a datgloi gwybodaeth ychwanegol megis cysylltiadau at addysg ac allfudo.







































