Ar ôl digwyddiad rhwydweithio llwyddiannus y llynedd, pleser gan Lysgenhadaeth y Swistir yn Llundain yw ymuno ag Wythnos Cymru Llundain unwaith eto yn 2023 i, o flaen llaw, ddathlu Dydd Gŵyl Dewi gyda’n ffrindiau Cymreig. Ein nod yw dod â gwesteion Cymreig a Swisaidd o fyd gwleidyddiaeth, academia a diwylliant at ei gilydd, yn ogystal â chwmniau mawr a bach o amrywiol ddiwydiannau sydd â chysylltiadau â Chymru a’r Swistir.
Gwerth sylfaenol y Swistir, ac yn enwedig ein Gweinidog Tramor, Ignazio Cassis, yw’r cysyniad o ‘undod mewn amrywiaeth’. Mae hyn yn wir i’r Deyrnas Unedig a’r Swistir ill dau yn ein trefn sefydliadol priodol. Mae’n bwysig i ddathlu treftadaeth ddiwylliannol ac ieithyddol ac felly rydym yn edrych ymlaen at ddathliadau Dydd Gŵyl Dewi sydd ar ddod yn ystod Wythnos Cymru Llundain.
Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn fodlon i fod yn rhan o’r digwyddiad a bydd yn anerch y gwesteion mewn croeso ar ôl anerchiad groeso’r Llysgennad.
Fel digwyddiad rhaglen ddiwylliannol, byddwn yn amlygu’r nodweddion cyfochrog rhwng meithrin a hyrwyddo’r iaith Romansch / Grishun, a’r ymdrechion a wnaed i gynnal a hyrwyddo Cymraeg a diwylliant Cymreig yn y DU.
I’r perwyl hwn, byddwn yn gwahodd cynrychiolwyr o Gymru ac o Grishun i ddod a chyflwyno’u hiaith a diwylliant i’r gynulleidfa ac amlygu’r pwysigrwydd o gadw’r diwylliannau hyn yn fyw.
Yn rhan o hyn hefyd fydd profiad coginiol o rwyfaint o fwydydd lleol o Grishun, arddangosfa fach ar ddiwylliant ac iaith Grishun, a sioe sleid o luniau a ffeithiau am Grishun i gyfleu darlun o’r rhanbarth