Ymunwch â ni ar gyfer Ymchwilio Llinach Gymreig, cwrs hanner diwrnod yn cynnwys adnoddau a materion Cymreig penodol, megis addoliad anghydffurfiol, cyfenwau, galwedigaethau a mudo.
Mae’r Tiwtor a’r Achydd, Gill Thomas, yn arbenigo mewn ymchwilio Cymreig a bydd yn rhannu syniadau a dulliau i helpu chwalu’ch waliau brics ac agor llwybrau newydd o ymchwilio.
Dim yn gwybod eich Cardigan o’ch Aberteifi? Yn delio â gormod o Joneses?
Ymunwch â ni am hanner diwrnod yn canolbwyntio ar ddysgu am Gymru.
Amdano’r digwyddiad hwn:
- Araith ar Zoom gyda Gill Thomas, Arbenigwr ar olrhain hynafiaid Cymreig
- £20 ond yn cael ei gynnwys mewn Aelodaeth Aur SoG sydd yn dechrau o £15 y mis
Mae gan Gill Thomas gefndir mewn Hanes, ac astudiodd am ei gradd BA yng Ngholeg Prifysgol Caerdydd. Mae ganddi Tystysgrif Ȏl-radd mewn Astudiaethau Achyddol ym Mhrifysgol Strathclyde. Hi yw perchennog ‘Who What Where Research Services’ ac mae ei chanolfan yn Llundain. Hi yw cadeirydd cyfredol AGRA (Association of Genealogists & Researchers in Archives).