Wedi’i chreu gan y dramodydd a’r actor, Liam Holmes, mae’r ddrama’n dilyn Stephen Jones, y rhyfeddod rygbi haerllug (hunan ddatganedig) o bentref Cymreig bach Aberfan, sydd newydd gicio’i gic orau erioed.
Yn y cyfamser, mae’r nyrs ffraeth, hoffus Cwm Taf (hefyd, hunan- ddatganedig), Angharad Price, yn gwneud penderfyniad sydd yn mynd i newid ei bywyd.
Wrth i Stephen geisio swyno Angharad, mae’r hyn na ellir meddwl amdano’n digwydd: mae 150,000 o dunelli o lo yn rhutho i lawr ochr y bryn tuag at ysgol gynradd Pantglas.
Ar ôl rhediad o Lundain i Gymru, lle gwerthwyd yr holl docynnau, mae Mr. Jones yn dychwelyd i’r Union Theatre, gan ddod â stori ingol yn fyw, hanes sydd yn cyseinio drwy’i chymeriadau – storïau a allai fel arall wedi aros heb eu dweud.
Ymunwch â ni o 6.45yh am brofiad unigryw i ymgolli ynddo – bydd Noson yng Nghlwb Rygbi Aberfan yn dod â blas o dde Cymru yn fyw gyda cherddoriaeth a perfformiadau byw cyn y sioe ac yn ystod yr egwyl.
Bydd digon o gyfleoedd ar gyfer cyd-ganu a chyfle i gysylltu ag ysbryd y cymoedd – a chael noson fythgofiadwy.
★★★★ – Institute of Welsh Affairs | ★★★★ – Get The Chance
“Holmes' portrayal of Stephen Jones is nothing short of mesmerising . . . a testament to his skill as both a playwright and performer. With young playwrights such as Holmes emerging throughout Wales, the future of Welsh theatre is in safe hands.” Institute of Welsh Affairs
“Theatrical gold in the hands of Liam Holmes.” London Grip
“Will be met with universal acclaim no matter where it is viewed.” Get The Chance
· Tocynnau £23 / £19 consesiwn
