• Dyddiad
    19th Chwefror 2022 at 11:00yb
  • Man cyfarfod
    London Welsh Centre, 157-163 Gray’s Inn Road
  • Gwesteiwr
    London Welsh Centre, Wythnos Cymru Llundain and @welsh_art
  • Categori
    Celfyddydau A Diwylliant

I’w chynnal dros ddau ddiwrnod – dydd Sadwrn 20 Chwefror a dydd Sul 21 Chwefror.

Os oes diddordeb gennych mewn celfyddyd Gymreig gyfoes, mae’r arddangosfa hon, a gynhelir gan Ganolfan Cymry Llundain, yn gyfle gwych i chi gwrdd â’r arlunwyr, a gweld a phrynu rhywfaint o’u gwaith!

Ac, os ydych yn arlunydd Cymreig, dyma gyfle bendigedig i arddangos eich gwaith i gynulleidfa o drigolion Llundain, gan gynnwys y nifer fawr o bobl Gymreig (rhyw 60,000+ ohonynt yn Llundain!) sydd yn hapus i brynu rhywbeth sydd yn eu hatgofio o gartref ac i foddhau eu hymwybyddiaeth Gymreig greadigol a diwylliannol.

Canolfan Cymry Llundain yw’r hyb diwylliannol Cymreig yn Llundain ac felly’n darparu’r gofod perffaith ar gyfer cyfle mor wych i unrhyw un sydd â diddordeb mewn celfyddyd Gymreig.

11.00am - 5.00pm ddydd Sadwrn 20 a dydd Sul 21 Chwefror.

Bydd pob gwerthiant o waith celf yn rhydd o gomisiwn, felly bydd pob prynwr yn gwybod bod pob arlunydd yn cael y budd llawn o’u gwaith caled.

Gallwch ddilyn Celfyddyd Gymreig ar twitter fan’ma.

Edrychwn ymlaen at eich gweld yno.

Wedi’i gefnogi’n garedig gan British Business Bank.