Sut ellir defnyddio Cymraeg a Gwyddeleg i adrodd storïau mewn ffyrdd unigryw?
Bydd y ffordd rydym yn siarad yn chwarae rhan allweddol wrth feithrin ein perthnasau â’n gilydd a’n cymunedau. Nid oes unrhyw le arall y bydd hyn yn fwy gwir nag i siaradwyr iaith lleiafrifol, na all eu ffordd o’i siarad hi (na’r rhesymau am wneud hynny) ond helpu i adlewyrchu’r cyd-destun cymdeithasol a hanesyddol cymhleth y maen nhw’n byw ynddo.
Ymunwch â ni wrth inni wylio pedair ffilm fer sydd yn defnyddio Cymraeg a Gwyddeleg fel cyfryngau adrodd stori i roi dimensiwn unigryw i’w naratif a’u cymeriadau.
Yn dilyn y sgrinio, bydd trafodaeth fer ar y pwnc o sut mae ieithoedd Celtaidd yn cael eu defnyddio yn y ffilmiau a ddangoswyd a thu hwnt.
Cynhelir y digwyddiad yn y bar lan llofft. Nid oes lifft i’r llawr hwnnw.
