Bydd y ddarlith â delweddau hon yn archwilio a chlodfori detholiad o ddarluniau gan bedwar arlunydd hynod ddiddorol a gafodd eu geni o fewn naw mlynedd i’w gilydd.
Y pedwar yw Joan Baker, Ogwyn Davies, Kyffin Williams ac Ernest Zobole. Mae eu gweithiau celf cyfunol yn cynrychioli gwahanol ddehongliadau o’r Gymru fodern a chyfoes.
Mae Ceri Thomas yn arlunydd llawrydd, hanesydd celf a churadur sy’n byw yn ne Cymru.
Mae wedi arddangos ei waith yn Senedd Cymru, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru a lleoliadau eraill a chafodd ei ethol yn Aelod o’r Academi Gymreig ar gymeradwyaeth Kyffin Williams.
Mae wedi ymchwilio ar gyfer a chynhyrchu llyfrau, catalogau arddangosfeydd ac erthyglau ar nifer o arlunwyr Cymreig ac wedi curadu arddangosfeydd cysylltiedig yng Nghymru.