Ymunwch â ni am noson ysblennydd o adloniant yng Nghinio Gala agoriadol Wythnos Cymru Llundain!
Am y tro cyntaf yn ystod Wythnos Cymru Llundain, byddwn, wrth lansio rhaglen digwyddiadau 2024, yn cynnal Cinio Gala Cymru ar ei Gorau, a gynhelir yn adeilad nodedig Gwesty InterContinental, Park Lane, ddydd Iau 22 Chwefror.
Noson yn gorlifo gan ddiddanwch fydd Noson Gala Cymru ar ei Gorau, gan gynnwys digrifwyr Cymreig, perfformiadau cerddorol Cymreig ac arwyr chwaraeon Cymru!
Mae’r rhestr yn cynnwys y digrifwr o Gymraes, Kiri Pritchard-McLean, yr actor a’r perfformwr cerddorol West End a Broadway John Owen Jones; y perfformwyr theatr gerddorol o fri Welsh of the West End, a sêr Cymreig o’r byd chwaraeon yn cynnwys yr athletwr paralympaidd, Aled Siôn Davies OBE, y chwaraewr rygbi rhyngwladol a sylwebydd yn rygbi’r undeb a rygbi’r gynghrair Jonathan Davies OBE a’r pêl-droedwr rhyngwladol o Gymro, Joe Ledley.
Ein MC gwadd arbennig am y noson yw’r darlledwr chwaraeon blaenllaw, Lauren Jenkins – a daw’r noson i’w therfyn yng nghwmni’r DJ Cymreig o fri rhyngwladol, Katie Owen!
Gobeithio, byddwch yn rhan o’r noson arbennig hon – i neilltuo’ch byrddau cysylltwch cyn gynted â phosib ag events@engagesport.com.
Mae Byrddau Aur ar gyfer deg unigolyn @ £2,000, yn cynnwys croeso Siampên, hanner botel o wîn i bob unigolyn, cinio tri chwrs a choffi.
Cafodd y digwyddiad ei ddatblygu’n glos gyda Phillips Wellbeing Services a Phillips Consultants, a’i gydlynu gan y tîm yn Engage Sport – bydd yn cefnogi tair elusen bwysig a’u canolfannau yng Nghymru – Canolfan Ganser Felindre, St David’s Hospice Care a’r Green Man Trust, a gaiff ei noddi’n garedig iawn gan Port of Milford Haven.
Neilltuwch eich lle nawr i osgoi cael eich siomi – bydd yn bleser i’ch gweld yno!