Mae Oriel Gelf Aberdaugleddau yn arddangos gwaith celf amrywiol sydd wedi’i ysbrydoli gan dirluniau, diwylliant a hanes Cymru; gan flendio dehongliadau traddodiadol a modern gan arlunwyr rhyngwladol drwy gyfryngau amrywiol.
Bydd yr arddangosfa’n dechrau yn yr wythnos sydd yn arwain at Ddydd Gŵyl Dewi gyda’r digwyddiad gwobrwyo, a bydd yn parhau trwy gydol Wythnos Cymru Llundain, tan Fawrth 8fed.
Hwylusir ein harddangosfa gan Parker Harris, Ymgynghoriaeth Gelf.
Oriel Gelf Aberdaugleddau:
Yn cael ei hystyried yn helaeth fel un o’r orielau mwyaf blaengar yng Nghymru, mae Oriel Gelf Aberdaugleddau yn arddangos detholiad parhaol o’i harddangoswyr rheolaidd ochr yn ochr â rhaglen ddeinamig o arddangosfeydd drwy gydol y flwyddyn. Yn arddangos yr arlunwyr a’r gweithwyr crefft gorau yng Nghymru, mae’r atyniad hwn yn Sir Benfro yn un y dylech ymweld ag ef.
Cafodd llawer o’r gwaith cyfoes sydd yn cael ei ddangos ei ysbrydoli gan dirlun a golau Sir Benfro sydd yn cynnwys yr holl arddulliau a chyfryngau gwahanol megis gwaith celf gain, cyfryngau cymysg, cerflunwaith, ffotograffiaeth, gwaith cerameg, papier-mâché, gemwaith, gwaith gwydr, gwaith efydd, metel a choed.
Creuwyr y gystadleuaeth celfyddyd uchel ei phroffil ‘Cymru Gyfoes’, bydd y gystadleuaeth rhyngwladol agored hon yn cynnwys pob agwedd o gelfyddyd 2D a 3D wedi’i ysbrydoli gan Gymru. Bydd yr arddangosfa’n cael ei chynnal yn yr Oriel bob blwyddyn, a bydd taith wedyn i leoliadau o fri megis y Senedd a’r Pierhead Building yng Nghaerdydd a’r Mall Galleries yn Llundain.
Gan hyrwyddo, cefnogi a datblygu pob math o gelfyddyd a chrefftwaith, bydd Oriel Gelf Aberdaugleddau yn cynnal arddangosfeydd yn aml drwy gydol y flwyddyn gyda chyfraniadau gan arlunwyr preswyl a’r rhai sydd yn ymweld â hi.
![](/cms-assets/content/london/_contentMedium/image_2025-01-25-123103_vxio.png)