• Dyddiad
    4th Mawrth 2023 at 10:30yb
  • Man cyfarfod
    On-line
  • Gwesteiwr
    Gill Thomas / Society of Genealogists
  • Categori
    Celfyddydau A Diwylliant

Oes gennych Jones, Davies neu Thomas yn eich coeden deulu? Ydych chi’n gwybod y gwahaniaeth rhwng Aberhonddu a Brecon? Wnaeth eich hynafiaid addoli mewn capel neu eglwys? Wnaeth eich hynafiaid symud i neu o Gymru?

Ymunwch â Gill Thomas am gwrs hanner diwrnod yn canolbwyntio ar archwilio llinach Gymreig. gofnodion ar-lein a dogfennau mewn archifau.

Bydd y cwrs yn cynnwys:

· Cofnodion sifil ag eglwysig, gyda ffocws ar anghydffurfiaeth

· Cyfenwau

· Arysgrifau coffaol a chofnodion cyn cyfrifiad

· Galwedigaethau Cymreig traddodiadol megis gwasanaeth Llongau Masnach a Mwyngloddio

Nid yw’r amser hwn yn gyfleus? Neilltuwch le beth bynnag gan recordir y drafodaeth hon a bydd ar gael i’w gwylio am bythefnos.

Amdano’r darlithydd: mae gan Gill Thomas gefndir mewn Hanes, a graddiodd yn B.A ym Mhrifysgol Coleg Caerdydd ac mae ganddi Dystysgrif Ȏl Radd mewn Astudiaethau Achyddol o Brifysgol Strathclyde.

Hi yw perchennog ‘Who What Where Research services’ ac mae ei chanolfan yn Llundain. Mae hi ar hyn o bryd yn gadeirydd AGRA (Cymdeithas Achyddwyr ac Archwilwyr ym myd Archifau) ac mae’n arbenigo mewn archwilio Cymreig, yn enwedig yn ne, gorllewin a chanolbarth Cymru.