• Dyddiad
    20th Chwefror 2025 at 06:30yp
  • Man cyfarfod
    Medical Society of London, 11 Chandos Street W1G 9EB
  • Gwesteiwr
    The Honourable Society of Cymmrodorion
  • Categori
    Celfyddydau A Diwylliant

Ein siaradwr gwadd eleni yw Dr Zehra Jumabhoy, Darlithydd Hanes Celf, Prifysgol Bryste – caiff y digwyddiad ei gadeirio gan Peter Bennett-Jones CBE.

Beth sydd yn gyffredin rhwng y Teigr Indiaidd a’r Ddraig Gymreig â Llew Britannia?

Os mai India oedd y Gem yn y Goron Ymerodrol, a allwn ni ddadlau mai Cymru oedd trefedigaeth gyntaf Lloegr?

Sut ddylai Prydain ddelio â’i gorffennol trefedigaethol, mewnol ac allanol?

Wrth i Gymru frwydro am ei hunaniaeth o fewn ‘Prydeindod’, sut ddylai gydnabod y modd a wnaeth gyfrannu at, manteisio ar, ac hyd yn oed, ddioddef oherwydd uchelgeisiau Ymerodrol Prydain?

Bydd yr araith hon yn ystyried y cwestiynau hyn yng nghyd-destun arddangosfa fawr, Teigrod a Dreigiau: India a Chymru ym Mhrydain, a fydd yn digwydd yn Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe, o Fai tan Hydref 2025.

Mae gan ‘Teigrod a Dreigiau’ elfen gyfoes a hanesyddol; gan daflu golau ar ymarferwyr a’u canolfan yng Nghymru, ochr yn ochr â chelf o de Asia a’i diaspora, gan wasanaethu fel llwyfan ar gyfer dadleuon am dreftadaeth ‘Brydeinig‘, datrefedigaethu a chenedlaetholdebau sydd yn cystadlu. Bydd Castell Powis, a thrysorau sydd yn gysylltiedig â theigrod ac sydd wedi’u lloffa o’r India, o’i ‘Gasgliad Clive’, yn cael eu hamlygu mewn amryw o ffyrdd.

Digwyddiad ar y cyd â Chymdeithas Maldwyn yw hwn.