Ar y cyd â Chymdeithas Sir Drefaldwyn.
Mae ymchwil a diddordeb ym mhryngaerau Cymru’r Oes Haearn wedi cynyddu’n sylweddol yn yr ugain mlynedd ddiwethaf, gyda ffyrdd newydd a chyffrous o ddehongli’r cofadeiladau hyn yn codi.
O ddyddiau hwyr Oes Efydd hyd at gyfnod y Rhufeiniaid a thu hwnt, adeiladwyd mwy na 2,000 o fryngaerau a ffermydd, a amddiffynwyd, ar draws Cymru, gan gyflwyno ymagweddau newydd at fywyd cymunedol yn y mileniwm cyntaf CC.
Cynlluniwyd bryngaerau’n ddawnus, gyda’u pensaerniaeth yn ymgorffori elfennau arddangosfa cystadleuol fel arf effeithiol rhag ymosodiad. Cawsant eu hadeiladu a’u hailadeiladu, gan harneisio rhwydweithiau dyled a rhwymedigaeth. Ar hyd ffiniau Cymru roedd bryngaerau eang yn rheoli lleoliadau eiconig ac yn llywyddu dros dirlun rhanbarthol cryf wedi’i gysylltu â rhwydweithiau prysur o gyfnewid a chyfathrebu.
Bydd y ddarlith hon yn archwilio syniadau newydd sydd yn ymddangos ynghylch fryngaerau Cymru a’u tirluniau, a sut ddatblygodd hynny ein dealltwriaeth o gymunedau’r Oes Haearn yng Nghymru.
Bydd hefyd yn ystyried pa mor weledol mae’r bryngaerau hyn i fobl fodern Cymru, a sut allai’r genhedlaeth nesaf efallai gymryd mwy o ddiddordeb gyda’r cyfnod pwysig hwn o gynhanes Cymru.
Siaradwr Dr Toby Driver FSA, Uwch-ymchwiliwr (Arolwg Awyrol) yn y Comisiwn Brenhinol, Cymru
Mae’r Dr Toby Driver FSA yn arbenigo mewn archaeoleg cynhanesyddol a Rhufeinig Cymru ac mae’n gweithio fel Uwch-ymchwiliwr gyda’r Comisiwn Brenhinol, Cymru.
Mae’n awdur nifer o lyfrau ar archaeoleg Cymru, gan gynnwys ‘The Hillforts of Iron Age Wales’ (Logaston Press 2023), ac ef yw Cadeirydd Fframwaith Ymchwilio Oes Haearn ac Efydd Diweddarach ar gyfer Cymru. Mae’n Ymddiriedolwr y Cambrian Archaeological Association ac yn Gymrawd o Society of Antiquaries of London.
I wylion’n fyw ar-lein, cliciwch fan’ma neu fynd i www.cymmrodorion.org/talks