Cenedl o gyferbyniadau yw Cymru. Mae’n brolio adnoddau naturiol anhygoel a thlodi llethol; gwladgarwch angerddol a rhaniad gogledd / de llym; ynni dros ben a rhai o’r biliau uchaf yn y Deyrnas Unedig.
Mae ganddi hefyd ddiwylliant gwirioni ar rygbi enwog – ond mae’i thîm pêl-droed yn goleuo twrnameintiau rhyngwladol. Felly, beth sy’n mynd ymlaen? A sut efallai bydd Cymru yn edrych fel rhai degawdau yn y dyfodol?
Mae Rhys Thomas yn dod o Dalacharn – y pentref, yn ôl y sôn, y seiliodd Dylan Thomas Llareggub Under Milk Wood arno (darllenwch Llareggub yn ôl). Yn yr archwiliad serchog hwn i’w gynefin – drwy ddaearyddiaeth, bwyd, diwylliant a chwaraeon Cymru – ei nod yw mynd i galon ei chyferbyniadau. Wrth wneud hynny, adeilada Thomas ddelwedd fosaig o sut mae Cymru’n edrych fel heddiw – a sut allai edrych fel yn y dyfodol.
"We can't think of a better person to write about Wales and Welsh culture than Rhys! He's a top bloke and we love this book", ADWAITH, Enillwyr Arobryn Cerddoriaeth Gymreig 2019 & 2022.
Newyddiadurwr ar ei liwt ei hun a strategydd yw Rhys Thomas o Dalacharn, gorllewin Cymru.
Ysgrifenna golofnau ac erthyglon ar gyfer cylchgronau, ar-lein ac mewn argraffiadau, ar ystod o destunau megis gwrywdod, cryptoarian a blockchain, technoleg digidol, proffiliau athletwyr a cherddorion, nodweddion arbrofol, diwylliant digidol ac isddiwylliannau, cyfweliadau gyda phobl nad ydyn nhw’n selebs am faterion bywyd gwirioneddol, a diwylliant Cymreig.
Mae ei waith wedi ymddangos yn VICE, Time Out, The Face, The Guardian, GQ, Mr Porter, Huck, The Times, Dazed, Mundial, Highsnobiety, The Independent, The Daily Star, MEL Magazine, Red Bull, The Strategist/New York Magazine, ac ITV. 'The Future of Wales' yw ei lyfr cyntaf.
MELVILLE HOUSE UK – cyfres THE FUTURES
Mae cyfres newydd FUTURES o Melville House sydd yn lansio ym mis Chwefror 2024 yn cyflwyno gweledigaethau dychmygol o’r dyfodol ar ystod eang o destunau, wedi’u hysgrifennu gan arbenigwyr, academyddion, newyddiadurwyr ac unigolion diwylliant pop blaenllaw. Gan geisio cyhoeddi amrywiaeth cyfoethog o farnau, ac yn cyflwyno ystod mor eang â phosib ar ein bywydau yn y dyfodol, gofynnwn i’n hawduron i archwilio â syniadau beiddgar a allai newid y farn gyhoeddus.
Fel cyfres gobeithio bydd llyfrau FUTURES yn ysbrydoli darllenwyr i ddychmygu beth allai ddigwydd yn y dyfodol, i roi barn ar sut yr hoffen nhw’r dyfodol i fod, ac i feddwl sut allen ni ar y cyd gyrraedd yno.