“Beth am glywed rhywbeth a wnaiff eich syfrdanu!”
Mae’r band byd-enwog, The Cory Band , yn perfformio yn y Regent Hall ddydd Sadwrn 1 Mawrth.
Cory Band yw band pres gorau’r byd, ac maen nhw’n falch i arwain y ffurf draddodiadol hon o gyfansoddi cerddoriaeth amatur i oes newydd.
Bydd mwy o fanylion ar gael maes o law, ond maen nhw’n ceisio am nawdd ariannol at gost y bws a llogi’r neuadd.
Bydd y nawdd hefyd yn cynnwys nifer o docynnau di-dâl yn ogystal â chyfleoedd amrywiol ar gyfer brandio, ayyb.
Beth am wasgaru’r neges hon – a chysylltwch os oes diddordeb gennych yn hyn o beth.