• Dyddiad
    28th Chwefror 2024 at 06:30yp
  • Man cyfarfod
    St John’s Smith Square, Smith Square, London SW1P 3HA
  • Gwesteiwr
    Amgueddfa cymru
  • Categori
    Celfyddydau A Diwylliant

Ymunwch gydag Amgueddfa Cymru wrth inni edrych ar gyfnodau penodol o greadigrwydd a gweithredu yng Nghymru.

Bydd ein panel yn rhannu profiadau personol o ymgyrchu am newid o safbwyntiau gweithredu diwydiannol, dros yr iaith a gwrth-hiliaeth. Mae perthynas agos rhwng celf ac eiriolaeth a byddwn yn archwilio eitemau perthnasol o’r Casgliad Cenedlaethol wrth i'n panelwyr drafod ar y noson.

Manylion y Digwyddiad:

6:30yh: Derbyniad

7.00yh: Trafodaeth Banel

8.00yh: Cwestiwn ac Ateb

8:30pm: Derbyniad

Panel:

  • Betsan Powys, Newyddiadurwraig a Chyn Olygydd Gwleidyddol BBC Cymru (Cadeirydd)
  • Siân James, gweithredwr streic glowyr 1984-85 a chyn AS Dwyrain Abertawe
  • Nicole Ready, Cynhyrchydd Amgueddfa Cymru
  • Ian Gwyn Hughes, Pennaeth Cyfathrebu Cymdeithas Bêl-droed Cymru

Mae Amgueddfa Cymru yn elusen ac yn deulu o saith amgueddfa genedlaethol a chanolfan gasgliadau, oll wedi'u lleoli ar draws Cymru. Ond rydyn ni'n fwy nag adeiladau yn unig. Mae ein hamgueddfeydd yn ganolfannau cymunedol pwysig sy’n ymestyn tu hwnt i'w milltir sgwâr. Ein nod yw ysbrydoli pawb trwy stori Cymru ac rydyn ni’n deall bod gan bawb rywbeth i’w gyfrannu trwy ein hamgueddfeydd, ein casgliadau a’n gwaith.