Digwyddiad diwylliannol Cymreig, yn cael ei gynnal yn ystod Wythnos Cymru Llundain ar Ddydd Gŵyl Dewi, gan amlygu arloeswyr creadigol sydd yn ffurfio naratif newydd.
Bydd Shoreditch Arts Club yn cynnal Refresh / Retold, dathliad Ddydd Gŵyl Dewi garreg filltir a fydd yn herio canfyddiadau creadigrwydd Cymreig. Wedi’i guradu gan Glwb Creative Cymru a’i gefnogi gan Lywodraeth Cymru drwy Creative Cymru, bydd y digwyddiad diwylliannol, diwrnod cyfan i ymgolli ynddo, hwn yn taflu golau ar ddoniau Cymreig ifanc sydd yn torri cwysi newydd ar draws y cyfryngau ffilm, ffotograffiaeth a cherddoriaeth, a bydd trafodaethau panel hefyd – yn dod â chenhedlaeth newydd o unigolion creadigol ynghyd, sydd yn ffurfio dyfodol Cymru.
Disgwyliwch gymysgfa drydanol o ddangosiadau ffilm a fydd yn pryfocio’r meddwl, arddangosfa ffotograffiaeth drawiadol, a sgyrsiau ysbrydoledig ag arloeswyr diwylliant Cymreig, ac yna i gloi, digwyddiad rhwydweithio a arweinir yn fyw gan DJ, gan feithrin cysylltiadau ystyriol o fewn y gymuned ddiaspora a’r olygfa greadigol yn Llundain.
- Rhestr a guriadwyd o ddoniau y dylid eu gweld
Mae’r digwyddiad hwn a ddisgwylir yn awchus amdano yn cynnwys rhestr eithriadol o wneuthurwyr ffilmiau, ffotograffwyr, cerddorion ac arweinwyr meddyliau, pob un yn gyrru symudiad creadigol newydd yng Nghymru.
- Trafodaethau panel
Rhestr amrywiol o darfwyr diwydiant yn trafod sut mae unigolion creadigol Cymreig yn gwneud effaith byd-eang.
Sŵn Cymru – iaith, hunaniaeth a rhyng-annibyniaeth ar gerddoriaeth, gan gynnwys yr artist rap a RNB amgen a enwebwyd am BAFTA, L E M F R E C K, cyflwynwr Radio Caerdydd a chyfranogwr BBC Introducing, Ashraf Muhammed, DJ electronig a chynhyrchydd Douvelle19, a Katie Owens, DJ a chyflwynwr.
- Adrodd storïau yn y cyfryngau
Pam fod cynrychiolaeth gwirioneddol o leisiau Cymreig yn cyfrif, yn cynnwys cydsylfaenydd Clwb Creative Cymru a’r gwneuthurwr ffilmiau, Dagmar Bennett; gwneuthurwr ffilmiau arobryn BAFTA, Janis Pugh, a’r ysgrifennwr / cyfarwyddwr y tu ôl i Chuck Chuck Baby 2023, Ibby, sefydlydd brand gwisgoedd stryd IBY a digwyddiad IBYFEST byw Caerdydd; yn ogystal â Lydia Birgani-Nia, ymgynghorydd brand Cymreig / Iranaidd, y mae ei phrofiadau amrywiol yn cynnwys diwylliant chwaraeon, Web3 ac arloesedd digidol.
- Grym brand
Hunan-hyrwyddo, meithrin cymunedau a gwaddol, yn cael ei gynnal gan cydgreuwr Clwb Creative Cymru a sefydlydd Talent Agency Creative, Ally Phie McKenzie, a’r siaradwyr - Brodie Meah, sefydlydd brand gwin a bwytŷ annibynol Top Cuvée; newyddiadurwr, golygydd ac awdur y llyfr TAKEAWAY, Angela Hui; a Tori West, sefydlydd a Phrif Olygydd cylchgrawn Bricks a’r Bricks Collective.
- Dangosiadau ffilm unigryw
Arddangos ffilmiau ar flaen y gad a ysgrifennwyd, cynhyrchwyd a chyfarwyddwyd gan ddoniau Cymreig addawol, gan gynnwys:
Dangosiad cyntaf yn Llundain o Frontier Town, ffilm ddogfen fer a enillodd BAFTA-Cymru, ac a gyfarwyddwyd gan Tom a Theo Tennant, am dri o drigolion Fairbourne, a ystyriwyd fel ffoadurion hinsawdd cyntaf y Deyrnas Unedig, wrth iddyn nhw fyw dan gwmwl o ansicrwydd a photensial o ddistryw amgylcheddol.
- Ffotograffiaeth ac arddangosfa adrodd storïau gweledol
Detholiad o waith, sydd wedi’i guradu, o artistiaid gweledol grymusaf Cymru.
- Rhwydweithio a mentora
Cyfle prin ar gyfer unigolion creadigol addawol i gysylltu ag arweinwyr diwydiant ac elwa ar fewnwelediadau gwerthfawr.
- Setiau Byw DJ
Dathliad o gerddoriaeth Gymreig a diwylliant tanddear, yn cynnwys cymysgfa eclectig o artisiaid.
Ymunwch â’r mudiad – tocynnau ar gael yn awr!
Tra fod Refresh / Retold yn ddathliad o hunaniaeth Gymreig ac eiliad o falchder i fynychwyr Cymreig, mae’n agored i bob brwdfrydwr creadigol, archwilwyr diwylliannol a gweithwyr diwydiant proffesiynol yn awyddus i brofi dyfodol creadigrwydd Cymreig.
- Am Glwb Creative Cymru
Wedi’i sefydlu gan Dagmar Bennett a Phie McKenzie, dechreuodd Clwb Creative Cymru fel clwb swper ac ers hynny fe dyfodd yn gymuned greadigol deinamig yn ymroddi i amlygu doniau Cymreig y tu hwnt i ffiniau cenedlaethol.
- Am Creative Wales
Asiantaeth ddatblygu economaidd Llywodraeth Cymru yw Creative Wales, wedi’i sefydlu i hyrwyddo a thyfu’r diwydiannau creadigol yng Nghymru.
Ei ffocws yw cynnig cyllid, cefnogaeth ac arweiniad ar draws ystod o sectorau, o deledu a ffilm, animeiddiad – gan gynnwys technoleg ymdrochol, AR / VR – drwy gemau, cerddoriaeth a chyhoeddi – gan lleoli Cymru fel un o’r llefydd gorau yn y byd i fusnesau ffynnu.
Rydym yn angerddol am greu cyfleoedd i bobl yn y diwydiant. Boed ai yw hynny ar gyfer hyfforddiant lefel mynediad neu ddatblygu ac uwchsgilio pobl sydd eisoes yn gweithio yn ein sectorau creadigol.
