• Dyddiad
    3rd Mawrth 2025
  • Man cyfarfod
    The London Welsh Centre, 157-163 Grays Inn Road WC1X 8UE
  • Gwesteiwr
    Cyfeillion Amgueddfa Lloyd George
  • Categori
    Celfyddydau A Diwylliant

Canrif ar ôl i aelodau seneddol y Blaid Geidwadol ddisodli Lloyd George fel Prif-weinidog a thrwy hynny sefydlu’r Pwyllgor 1922, fe welwyd Prifweinidog carismatig arall yn cael ei ddisodli gan aelodau ei blaid ac unwaith eto mi oedd Cymro Cymraeg yng nghanol yr helbul.

Dewch i glywed rhagor am hyn o lygad y ffynnon gan Guto Harri, y darlledwr, ymgynghorydd cyfathrebu ac ysgrifennwr fu’n Gyfarwyddwr Cyfathrebu i Boris Johnson yn ystod 8 mis olaf ei brifweinidogaeth a’i Lefarydd a Chyfarwyddwr Materion Allanol tra’n Faer Llundain.