• Dyddiad
    1st Mawrth 2023
  • Man cyfarfod
    Ar-lien
  • Gwesteiwr
    First Of March
  • Categori
    Celfyddydau A Diwylliant

Gwydraid: Gwydr – gŵyl ddigidol chwe mis yn dathlu hanes artistig, economaidd, technegol a gwyddonol gwydr yng Nghymru, y gorffennol, y presennol a’r dyfodol.

Fel cwmni yn arddangos creftwaith rhagorol Cymru, mae harddwch gwydr, fel gwrthrych dymunol neu nodwedd o’n hamgylchedd, yn rhan o’n DNA, felly roedd e’n bwysig i ni a’n Gwneuthurwyr i fod yn rhan o hanes CU 2022 yn dathlu cyfraniad gwydr i wyddoniaeth, technoleg, diwylliant a’r economi.

Bydd First Of March yn cynnal cyfres o arddangosfeydd ar-lein a gweithgareddau digidol cysylltiedig yn dathlu gwneuthurwyr gwydr a phenseiri penigamp o Gymru yn ogystal â sêr y dyfodol, hanes ac arloesedd cynhyrchu gwydr yng Nghymru: yr arloeswyr cyfredol ym myd diwydiant a gwyddoniaeth.

Bydd y rhaglen yn cynnwys cylchgrawn ar-lein, podlediadau a ‘nodweddion’ y cyfryngau cymdeithasol, fel rhan o Wythnos Cymru Llundain ac Wythnos Cymru Fyd-eang.

Caiff yr hanes ei adrodd gan y gwneuthurwyr, casglwyr a chleientiaid eu hunain (preifat, diwydiannol a masnachol) gan gyfleu gogoniant llawn gwydr yng Nghymru.

Os hoffech fod yn rhan o hyn, cysylltwch â Ruth yn ruth@firstofmarch.com gan ddyfynnu ‘Glass’.

Bydd ein dathliad Blwyddyn CU Gwydr yn parhau gyda dwy arddangosfa ddigidol unigryw yn arddangos gwaith yr artistiaid gwydr o fri, Catrin Jones a Ruth Shelley.