Mae Gŵyl y Ferch yn fenter gymdeithasol wedi'i redeg gan wirfoddolwyr yng Ngogledd Cymru.
Cafodd y fenter ei gychwyn gan Esme Livingston a Ffion Pritchard yn 2019. Ein anl ydi rhoi llwyfan i greadigolrwydd merched lleol, a thrwy hynny, hel arian i elusennau lleol sy'n helpu merched.
Mae ein digwyddiadau wedi'i ganoli gan arddangosfa agored o waith celf gweledol, yn ogystal â rhaglen o gerddoriaeth, llenyddiaeth ac addysg.
Ar gyfer ein pedwerydd digwyddiad, rydym wedi partneru â Wythnos Cymru Llundain i greu yr arddangosfa ddigidol yma. Cafodd y gwaith yma ei ddethol o alw agored am waith celf gan artistiaid benywaidd lleol yn 2020.
O ganlyniad i'r pandemic COVID-19, cafodd yr arddangosfa ei gau yn gynnar Mis Mawrth 2020. Rydym yn falch iawn o gydweithio efo Wythnos Cymru Llundain i gyflwyno yr arddangosfa yma o'r diwedd!
The event will be available here from 6.00pm on 20th February https://www.artsteps.com/view/...