Am 21 o flynyddoedd mae’r Dyn Gwyrdd wedi creu atgofion melys i filoedd o bobl o bob cwr o’r byd.
Mae’r ŵyl hon a gynhelir yn harddwch ysblennydd y Mynyddoedd Duon, ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, yn un o berlau diwylliannol Cymru. Enillodd gydnabyddiaeth fyd-eang diolch i’w harloesedd, ei chreadigrwydd a’i ffordd foesol o weithio ac mae wedi cipio llu o wobrau cenedlaethol.
Gŵyl y Dyn Gwyrdd oedd yr ŵyl gyntaf yn y DU i werthu pob un tocyn yn 2023. Llwyddodd i wneud hynny mewn llai na 3 awr – a hynny cyn cyhoeddi enwau’r artistiaid, sy’n dal yn gyfrinach hyd yma.
Hoffem ni lansio dathliadau Dyn Gwyrdd 2023 â’n ffrindiau, a gan gynnwys cipolwg cyntaf ar phrosiectau elusennol Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd.
Mynediad drwy wahoddiad yn unig, a bydd diodydd a manion i’w bwyta ar gael.