• Dyddiad
    22nd Chwefror 2022 at 06:30yp
  • Man cyfarfod
    The Medical Society of London, Lettsom House, 11 Chandos Street, Cavendish Square W1G 9EB - and On-line
  • Gwesteiwr
    Cymmrodorion
  • Categori
    Celfyddydau A Diwylliant

Ar y cyd â Chymdeithas Sir Drefaldwyn

Darlith Goffa June Gruffydd

Yn unigolyn cyfareddol yn hanes Cymru a’r delyn, roedd Edward Jones o Landderfel yn delynor nodedig, hynafiaethwr a chasglwr cerddoriaeth a barddoniaeth Gymreig.

Mae ei “Relicks of the Welsh Bards”, a gyhoeddwyd ym 1794, yn cynnwys casgliad pwysig o farddoniaeth a cherddoriaeth gwerin a thelyn Gymreig.

Siaradwr: Elinor Bennett OBE FRAM LLB

Cyfarwyddwr Ymddiriedol, Canolfan Gerdd William Mathias

Gweler sut i fynychu fan’ma

I fod yn bresennol yn y Medical Society of London cofrestrwch, gan ein bod wedi cyfyngu ar y nifer i gyflawni rhywfaint o bellter rhwng pobl.

I fynychu ar-lein, nid oes angen cofrestru. Dim ond dilyn y ddolen ar y wefan.