Y cymal cyntaf yw Eisteddfod Rhanbarth Tu Allan I Gymru ar gyfer cystadleuwyr y tu allan i Gymru i gystadlu ynddi, cyn symud ymlaen i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym Mharc Margam fis Mai 2025.
Eleni, bydd bron 400 o gystadlaethau gan yr Eisteddfod!
Bydd y rhain yn amrywio o gystadlaethau traddodiadol megis canu, adrodd, perfformio a dawnsio i gystadlaethau amgen megis gwallt a harddwch, cogUrdd, pobUrdd!
Yn ychwanegol i’r cystadlaethau hyn, bydd cystadlaethau amrywiol i ddysgwyr yr iaith Gymraeg. Beth am fwrw golwg ar y Maes Llafur i ganfod y cystadlaethau perffaith i chi.
