• Dyddiad
    3rd Mawrth 2025 at 12:00yp
  • Man cyfarfod
    The Royal Court Theatre, 50-51 Sloane Square, London SW1W 8AS
  • Gwesteiwr
    Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
  • Categori
    Celfyddydau A Diwylliant

Mewn cyngerdd i anrhydeddu’r Arglwydd David Rowe-Beddoe, diweddar Gadeirydd Llawryfog CBCDC, fe wnaeth yr actor byd-enwog Syr Ian McKellen gyhoeddi enwi Gwobr Shakespeare y Coleg er cof amdano.

Yn agored i fyfyrwyr ail flwyddyn BA Actio, mae’r wobr flynyddol hon o £5,000 yn cydnabod eu gallu technegol gyda barddoniaeth a’u cysylltiad â chymeriad a sefyllfa. Mae’r myfyrwyr wedi gweithio gyda’r actor o Gymru Syr Jonathan Pryce ac mae’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol wedi’u dewis i elwa o ddosbarthiadau meistr unigol gydag ef ac i gystadlu am y wobr eithaf hon.

Bydd rownd derfynol y wobr fawreddog hon yn cael ei chynnal yn y Royal Court Theatre, Llundain ar 3 Mawrth 2025. Bydd y rhai sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn perfformio araith Shakespeare a soned o flaen cynulleidfa a phanel o feirniaid uchel eu parch, gyda’r enillydd yn cael ei gyhoeddi yn y digwyddiad.

Gobeithiwn yn fawr y gallwch ymuno â ni i gefnogi'r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol mewn digwyddiad sy'n argoeli i fod yn wych.

(Photo credit: Kirsten McTernan)