Yn amlwg, ymwneud â cherddoriaeth yw ymuno â chôr; ni fyddech yn darllen hwn os na fyddai diddordeb gennych mewn cerddoriaeth. I’r perwyl hwn, mae canu corawl yn arbennig o hyfryd, gan fyddai’ch cyfraniad mor unigryw o bersonol; ychwanegiad o’ch cymeriad yw eich llais, ac mae’r wefr o gyfuno’ch llais â lleisiau’ch ffrindiau yn, ar ei orau, yn deimladwy; byddwch yn wir yn teimlo’r harmoni’n cyniwair ym mêr esgyrn eich bochau. Ni fydd dau gôr fyth yn swnio’r un fath ac mae pob un profiad o ganu gyda’ch côr yn swnio ac yn teimlo’n wahanol; dyna pam rydym am i chi ymuno â ni; ni fydd neb arall yn y byd yn swnio’r un fath â chi.
Nid ydym am eich llais yn unig, sut bynnag mor hyfryd yn sicr y bydd. Daw aelodau’n côr o amrywiol feysydd bywyd, yn fyfyrwyr, athrawon a thafarnwyr yn canu ochr yn ochr â chyfreithwyr, masnachwyr a milwyr. Mae oed ein halodau’n amrywio o’r rheini yn eu harddegau, yn eu dauddegau i’r rheini yn eu saithdegau a’u hwythdegau, oll gyda’i amrywiol chwiwiau, diddordebau a grwpiau cyfeillion y disgwyliech mewn sefydliad o fwy na 100 o leisiau. Fel gydag unrhyw synthesis mawr, bydd ein heffaith yn fwy na chyfanswm syml ein rhannau, fel mae’n amlwg yn yr alwad barhaus am ein cyngherddau yn y mannau mwyaf mawreddog yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.
Ond mae ein heffaith yn mynd y tu hwnt i’r lleisiol yn unig. Côr ydym, ond hefyd yn glwb ac yn grŵp o ffrindiau. Mae’r cysylltiad â Chymru’n amlwg, ac mae llawer o’r ‘alltudion’ yn cael cysur mewn cartref bach o gartref, ond mae Llundain hefyd yn llond eich llygaid, dyweda cynulleidfaoedd mae rhan o’n swyn ar y llwyfan yw’r cyfeillgarwch a ddengys y siaced goch, ac adlewyrchir hyn yn y croeso gwresog a gaiff y newydd ddyfodiaid. Nos Iau ydyw, rydych dros y garw, felly anweswch eich hun gyda hyrwyddiad fach ar y penwythnos drwy gyfarfod a Chôr Meibion Cymry Llundain yn ein hymarfer wythnosol; os ydych dal yn swil, dewch yng nghwmni ffrind ac ymunwch gyda’ch gilydd!
Os ydych yn dal yn mwydro amdano, peidiwch ag oedi mwy, anfonwch e-bost at Chris ynsecretary@londonwelshmvc.org i drefnu cwrdd â rhywun yn ein hymarfer nesaf; fel arall, beth am droi’i fyny beth bynnag yng Nghanolfan Cymry Llundain rhwng 7 a 7.30 yh ar nos Iau a gofyn am ymuno â’r Côr. Cewch sgwrs gyda’n MD ac yna, os fyddwch yn teimlo’n hyderus, cewch eich gwahodd i eistedd a mynd amdani; efallai ei fydd yn teimlo’n dipyn bach yn frawychus ond bydd corydd profiadol yn eistedd wrth eich ochr a wnaiff eich helpu. Os ar ôl eistedd am dipyn i wrando arnom i chi benderfynnu nad yw hyn i chi, wel, ein colled ni ydyw; fodd bynnag, prin yw’r adegau y bydd hynny’n digwydd, ac ymuno â’r côr sydd yn arferol o ddigwydd gan ei gyfoethogi ef a chi’ch hun.
Ymarferion bob nos Iau, 7.15 - 9.15 yh yng Nghanolfan Cymry Llundain, 157-163 Gray's Inn Rd, Llundain WC1X 8UE.