Mae’r Arddangosfa Gelfyddyd a Ffotograffiaeth Gymreig Gyfoes yn dychwelyd ar gyfer ei 7fed blwyddyn!
Bydd ymwelwyr rheolaidd i Wythnos Cymru Llundain wedi arfer ag Arddangosfa Gelfyddyd Gymreig; yn cael ei chynnal bob amser yng Nghanolfan Cymry Llundain dros benwythnos yn ystod pythefnos y digwyddiadau bob blwyddyn.
Yn anffodus, ni allwn gynnal yr arddangosfa yn ystod dyddiadau Wythnos Cymru Llundain eleni ond cadarnhaodd y Ganolfan y caiff ei chynnal yn ystod penwythnos 28-30 Mawrth yn lle hynny.
Felly dyma alw ar arlunwyr a ffotograffwyr Cymreig a hoffai cyfle i arddangos a gwerthu’u gwaith yn Llundain.
Bydd hwn yn achlysur bendigedig bob blwyddyn – a dathliad gwych o gelfyddyd gyfoes Gymreig – rydym yn edrych am arlunwyr i ymuno â ni – ac i atgoffa pawb arall i neilltuo’r dyddiadau hyn yn eu calendr!
Yn newydd ar gyfer 2024 – man arddangos di-dâl i fyfyrwyr ac arlunwyr addawol.
Pleser gennymd yw cyflwyno OPSIWN ARDDANGOS NEWYDD a ddyluniwyd i gefnogi doniau addawol:
- Bwrdd arddangos 1m-llydan di-ddâl
- Dimensiynau: 1m llydan x 2.5m uchel
- Cost: £0 (yn rhad ac am ddim!)
Rhan o’n hymrwymiad yw’r fenter hon i feithrin y genhedlaeth nesaf o arlunwyr. Rydym yn cynnig nifer cyfyngedig o fannau di-dâl i fyfyrwyr ac arlunwyr addawol i arddangos eu gwaith mewn sefyllfa broffesiynol.
Dyma gyfle ffantastig i:
- Rhannu’ch mynegiad creadigol
- Meithrin cysylltiadau o fewn y gymuned artistig
- Tyfu’ch proffil fel artist
Os ydych yn fyfyriwr neu arlunydd addawol, hoffem yn fawr i glywed oddi wrthych! Mae’r mannau hyn yn gyfyngedig, felly rydym yn annog i chi ymgeisio cyn gynted a phosib.
Dyddiadau Allweddol:
- Y paratoadau ar gyfer arlunwyr – nos Iau (27 Mawrth) / Dydd Gwener yn ystod y dydd.
- Golwg breifat – nos Wener, 28 Mawrth 2024.
- Arddangosfa ar agor i’r cyhoedd – dydd Sadwrn, 29 Mawrth – dydd Sul, 30 Mawrth

