Beth am fod yn rhan o sîn côr Cymreig anhygoel Llundain?
Dewch ac ymuno â Chôr Y Boro. Côr cymysg, pedair rhan ydym (soprano, alto, tenor, bas) a’n canolfan yng Nghapel Annibynnol Cymreig y Boro.
Er ein bod yn canu llawer o ganeuon yn Gymraeg ac mae llawer ohonom yn Gymry neu mae gennym gysylltiadau a threftadaeth Cymreig, nid oes rhaid i chi fod yn Gymro neu yn siarad Cymraeg er mwyn ymuno â ni.
Buom yn cystadlu mewn nifer o gystadlaethau yn yr Eisteddfod Genedlaethol – yn ail yn 2019 – a chawsom yr anrhydedd i berfformio ymhob man o Balas Buckingham a Stadiwm y Principality, i’r Shard a charthffos anhygoel newydd Llundain (ie, yn hollol wir!).
Bydd ymarferion gyda’r hwyr ddydd Mawrth o 19.00-21.00 acmae croeso i bawb.
Am ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost atom yn coryboro@gmail.com neu beth am alw heibio i un o’r ymarferion.