• Dyddiad
    5th Mawrth 2024 at 06:30yp
  • Man cyfarfod
    The Temple Church London EC4Y 7BB
  • Gwesteiwr
    The Temple Church
  • Categori
    Celfyddydau A Diwylliant

Thrice to Rome – drama a ysgrifenwyd gan Norman Doe, am dri ymddangosiad Gerallt Gymro yn Rhufain ger bron llys Pope Innocent III ym 1200-03.

Seilir y ddrama, a fydd ar ffurf dramateiddiad ddarllen, ar hanesion Gerallt ei hun o’r treial. Mae’n codi materion o bwysigrwydd cyfoes am gyfiawnder a chenedligrwydd Cymru.

Yn dilyn penblwydd marwolaeth Gerallt Gymro (d. 1223) yn 800 oed, perfformir y ddrama yn y Temple Church, Llundain EC4Y 1AF ddydd Mawrth 5, 2024 am [6.30] yh.

Grŵp o gyfreithwyr cyfredol yw’r actorion ar gyfer y ddrama yn ogystal ag aelodau staff y Temple Church.Adeiladwyd yr Eglwys gan y Temlyddion (Knights Templar) ac fe’i chysegrwyd ym 1185. Mae’r arddelwau yn y Round Church yn cynnwys ffigur William Marshall, Iarll 1af Penfro (d. 1219).

Yr Eglwys oedd lleoliad trafodaethau a arweiniodd at selio’r Magna Carta ym 1215, yn ystod bywyd Gerallt Gymro.