• Dyddiad
    26th Chwefror 2024 at 07:00yp
  • Man cyfarfod
    Sir Martin Gilbert Library, Highgate School, North Road, London N6 4AY
  • Gwesteiwr
    Highgate School
  • Categori
    Celfyddydau A Diwylliant

Mi fydd Ben Rogers Jones, arwerthwr a phrisiwr gyda Rogers Jones Auctioneers, yn trafod ei brofiad o werthu paentiadau a phrintiau gan Kyffin. Bydd yn edrych ar y newidiadau yn y farchnad a rhai o’i uchafbwyntiau Kyffin ‘o’r rostrwm’, gan gynnwys y prisiau uchaf erioed am baentiad olew, gwaith ar bapur ac am brint.

Mae Ben wedi bod gyda Rogers Jones & Co er 2001, ac wedi datblygu ei fusnes teuluol, a sefydlwyd gan ei fam a’i dad, i fod y cwmni arwerthu celf gain mwyaf yng Nghymru, sydd bellach mewn sawl lleoliad, ac sydd yn llwyddo i gyrraedd y prisiau uchaf erioed yn rheolaidd. Mae’r farchnad am weithiau gan Syr Kyffin Williams wedi bod yn ffactor aruthrol bwysig yn nhyfiant a llwyddiant parhaus Rogers Jones & Co.