1, 2, 3 . . . why is Marian so annoying?
4, 5, 6 . . . why is Lea doing so well?
7, 8, 9 . . . why does everyone need coffee all the time?
10, 11, 12 . . .
Gyda llais Cymreig gwladgarol, stori deimladwy, ddilys yw 12 am OCD, gwytnwch a goroesi’ch 20au.
Dilynwch Mel wrth iddi geisio goroesi blynyddoedd ei 20au, gyda’i OCD yn sicrhau ei bod yn ailwneud popeth 12 o weithiau – achos, chi’n gwbod, gallai’r byd fewnffrwydro fel arall.
Ei meddyliau ymwthiol? O, dim ond yr arferol: dal cancr y geg, marwolaeth ei mam, a diwedd y byd... i gyd wrth weini coffi i gwsmer gorchwilfrydig.
Beth am ei fwynhau’r Mawrth hwn yn New Wimbledon Theatre fel rhan o Wythnos Cymru Llundain.
Wedi’i gynhyrchu gan Onnen Productions, a’i ysgrifennu gan Martha Ifan.
· Tocynnau ar gael gyda disgownt i gymuned Cymry Llundain, drwy’r ddolen a ddarparwyd.
Cwmni theatr newydd yw Onnen Productions, ac fe’i sefydlwyd yn 2023, a bydd yn cynhyrchu yn Llundain a ledled Cymru.
Bydd Onnen Productions yn portreadu a hyrwyddo hanesion cwiar ac artistiaid Cymreig drwy lwyfanu a chyfansoddi gwaith newydd. Mae’n gweithio’n gwbl ar y cyd ar draws aml-gyfryngau a genres artistig.
Cynhyrchiad cyntaf fydd hwn i Onnen Productions yn Llundain.
Celfwaith gan Sioned Medi Evans Illustrations.
Hoffai Onnen Productions ddiolch i Gronfa Ddyngarol Cymru yn Llundain a Sefydliad Cymunedol yng Nghymru am noddi’r prosiect hwn.