Y dechrau’n deg...

Am bythefnos oddeutu Dydd Gŵyl, o 27 Chwefror tan 10 Mawrth, roedd 56 o weithgareddau / digwyddiadau gwahanol wedi’u cynnal o amgylch Llundain i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi, ac i hyrwyddo a dathlu Cymru a sefydliadau Cymreig.

Bu’n llwyddiant mawr, yn bennaf oherwydd yr ymgysylltu a’r cyfranogi gwych gan y Cymry alltud ledled Llundain.

Denodd Wythnos Cymru yn Llundain gryn dipyn o gefnogaeth ryfeddol hefyd gan Lywodraeth Cymru a Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn ogystal â nifer o noddwyr, y sicrhaodd eu cyfraniad amhrisiadwy ein bod yn gallu darparu cymorth hyrwyddo effeithiol a rheolaidd ar gyfer pob un o’r gweithgareddau a’r sefydliadau a gymerodd rhan.

  • Busnes, diwydiant a thechnoleg
  • 4th Rhagfyr 2017
  • The Wales Office