Fel rhan o ddathliadau Wythnos Cymru Llundain, mae Cymdeithas Gymreig UCL yn cynhyrchu’i Chynhyrchiad Theatr Bloomsbury gyntaf erioed: Hiraeth.
Ein sioe ein hunain yw hon, yn cael ei rhedeg yn gyfan gwbl gan ein myfyrwyr, yn arddangosfa gelf unigryw, sydd yn cynnwys dawns, canu, actio, chwarae offerynnau cerddorol, a llawer mwy!
Cafodd pob perfformiad ei ysbrydoli gan ryw agwedd ar Gymru, diwylliant Cymreig, yr iaith Gymraeg, hanes Cymru / digwyddiadau hanesyddol, tirlun, diwydiant, symbolau cenedlaethol, mythau / chwedlau, a mwy!
Yn y sioe ceir perfformiadau ar y cyd ag UCL Guitar, Cerddoriaeth Fyw, Ffotograffiaeth, Tango’r Ariannin, a Chymdeithas Salsa, yn ogystal â pherfformiadau gan sefydliadau myfyriwr a chymdeithasau Cymreig prifysgol ar draws Llundain.
Rydym yn llawn cyffro wrth ddod â’r sioe hon i’r llwyfan am un noson yn unig Nos Fercher 26 Chwefror 2020 (drysau i agor am 19:15 PM)!