Beth petai Mean Girls wedi’i gosod mewn eglwys?
Eglwys Gymreig.
A beth petai mai tair menyw Gymreig miniog eu tafod yw’r Plastics, sydd yn gwirioni ar glebran, cynnen ac ailredeg Tipping Point?
Croeso i Pews at Ten.
Ar sedd ffrynt Eglwys Gadeiriol Dewi Sant, mae Meryl, Dylis a Rona yn eistedd — hoelion wyth eu cymuned, yn ffrindiau i lawer, a gwasanaeth gwybodaeth answyddogol y dref. Yn fodlon iawn eu byd gyda’u harferion a’u trwynau’n bendant ym musnesau pawb arall. Caiff eu bywydau eu llorio pan ddaw newyddion o ddydd Sadwrn arbennig iawn … a pherson gwadd arbennig iawn.
Yn ddisymwth rhaid iddyn nhw afael ag NDAs (pa drefn ddylid trefnu’r llythrennau?), hors d’oeuvres (sut ddylid ei ynghanu?) a phresenoldeb bwnglera David — newydd ddyfodiad a ellid neu na ellid ei alw’n “un o’r ardal” (a all Sais erioed fod yn un o’r ardal hon?). Mae anhrefn yn dilyn. Chwerthin hefyd. Ac o bosib … bom rhyw.
Yn cael ei yrru gan ddeialog deallus cyflym a ffraethineb miniog, mae Pews at Ten yn slapstic llawen o chwyrlwynt, a llais Cymreig dilys yn greiddiol iddo. Yn dyner, yn ddeifiol ac, yn y pendraw, yn ysbrydoledig, llythyr caru yw i’n hynafgwyr, ein cymunedau a’r clymau agosrwydd sydd yn eu dal gyda’i gilydd. Mae rhai yn gadael. Mae rhai’n dychwelyd. Ond mae Meryl, Dylis a Rona yn aros.
Am Novem Ensemble
Casgliad o greuwyr ifanc a graddwyr diweddar o East 15 Acting School yw Novem Ensemble, pob un ohonyn nhw’n gwirioni ar y gwyllt, y natur fympwyol a’r godidog o ffôl. Caiff eu gwaith ei symbylu gan wreiddiau personol, hanesion heb eu hadrodd ac angerdd am wneud i gynulleidfaoedd chwerthin, beichio llefain — neu lefain wrth chwerthin.
Perfformiwyd Pews at Ten gyntaf yng Ngŵyl Lansio East 15 cyn dychwelyd adref i St David’s ar gyfer cyfres o berfformiadau i wirioni arnyn nhw, perfformiadau lle gwerthwyd pob tocyn. Gyda pherfformiadau niferus ar y gweill mewn gŵyl creadigol Cymreig — ac uchelgeisiau’n ymestyn mor bell â Chaeredin — mae’r cwmni wrth ei bodd i gadw’r sioe yn fyw a’i rhannu â chynulleidfaoedd newydd.
Dathliad twymgalon, llon o Gymreictod, hel clecs, cymuned … a grym y sedd flaen.







































