• Dyddiad
    19th Chwefror 2024
  • Man cyfarfod
    Polka Theatre, 240 The Broadway, Wimbledon, London SW19 1SB
  • Gwesteiwr
    Theatr Iolo & Polka Theatre
  • Categori
    Adloniant a Chymdeithasol

Mae Pete y mochyn daear yn hoffi popeth yn daclus yn ei le, y dail ac hyd yn oed yr anifeiliaid eraill. Ond, pan ddaw’r hydref, mae’n mynd dros ben llestri gyda glanhau’r goedwig ac ar ddamwain yn distrywio’i gartref ei hun!

Wedi’i seilio ar lyfr plant poblogaidd gan yr awdur a’r darlunydd, Emily Gravett, stori fwyn ond rhybuddiol yw Tidy am werth y byd sydd o’n hamgylch a’r hyn a ddigwydd iddo os na wnawn ofalu amdano.

Gyda phypedau hardd, cerddoriaeth wreiddiol a naws o ffolineb, bydd yr hanes chwareus hwn yn bleser pur i gynulleidfaoedd ifanc, wrth iddo archwilio sut mae angen tipyn bach o annhrefn gwyllt ar bawb yn eu bywydau.

TIDY © Emily Gravett 2016 - Two Hoots, Llyfrau Plant Macmillan

3-7 mlwydd oed.

Creu Theatr i Blant Ifanc – ymdrecha Theatr Iolo gyfoethogi bywydau plant drwy brofiadau cofiadwy sydd yn herio’r meddwl ac yn ysgogi’r dychymyg.

Bu Theatr Iolo ar flaen y gad ym maes creu theatr i blant yng Nghymru am fwy na phymtheg mlynedd ar hugain. Rydym yn angerddol ynglŷn â magu a thanio dychymyg a chreadigaeth plant ifanc, i’w helpu i ddeall y byd sydd o’u hamgylch a chanfod eu lle ynddo.

Byddwn yn gweithio gyda’r artistiaid ac ysgrifennwyr ac unigolion creadigol gorau i greu theatr fyw, gweithdai a gweithgareddau hy a chofiadwy yn Gymraeg a Saesneg. Caiff ein gwaith ar gyfer babanod, plant a phobl ifanc yn eu harddegau ei gludo ledled Cymru, y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.