Mae’r digwyddiad hwn yn taflu golau ar sut mae arweinyddiaeth garedig a thosturiol yn meithrin iechyd meddwl da – ac yn galluogi staff i deimlo eu bod yn cael eu cefnogi, bod yna gysylltiad da ac eu bod yn llwyddo.
Fel arweinyddion, sut wyddoch fod y gefnogaeth rydych yn ei chynnig yn briodol i’ch cyflogeion ac a yw’n gweithio iddyn nhw a chithau?
Ymunwch â ni a’n panel o seicolegwyr ac arweinyddion diwydiant gan gynnwys:
- Dr Jen Daffin, Seicolegydd Clinigol
- Dr Mikel Mellick, Uwch Ddarlithydd mewn Seicoleg Chwaraeon Cymhwysol
- Priya Datta, Pennaeth Datblygu Gweithredol
Yn Platfform rydym yn credu yng ngwerth gwir adnabod eich staff a’ch sefydliad, gan ddeall eich heriau unigryw a theilwra’n cefnogaeth i’ch amgylchiadau penodol.
Dyna’r rheswm rydym yn lansio’n cynnig Platfform Wellbeing newydd, wedi’i anelu’n benodol at fusnesau sydd am gael dull fwy cynhwysfawr a phwrpasol i gefnogi a gwella lles cyflogeion yn yr hir dymor.
Byddwn yn tynnu ar 30+ o flynyddoedd o brofiad fel elusen iechyd meddwl a newid cymdeithasol yn gweithio ar draws sefydliadau’r sectorau cyhoeddus a phreifat a’r trydydd sector i ddarparu ymagwedd tosturiol ac sydd yn canolbwyntio ar unigolion o ran hyfforddiant lles yn y gweithle a gwasanaethau cefnogaeth cwnsela.
Amserlen:
- 12.30yp – Croeso gyda lluniaeth ysgafn
- 12.45yp – Croeso a chyflwyniad i Platfform
- 1.00yp - Panel C&A ac ymholiadau o’r llawr
- 1.45yp – Cinio rhwydweithio
- 2.30yp - Diwedd